Box Office Hit with Hadley


Cyfeiriwyd Hadley at Weithffyrdd+ gan y Ganolfan Byd Gwaith gan ei fod yn awyddus i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl bod yn ddi-waith am rai blynyddoedd. Bu Hadley’n gwirfoddoli gyda Sefydliad Paul Sartori ac roedd ganddo hanes cyflogaeth amrywiol ond roedd yn ei chael hi’n anodd canfod gwaith taladwy ar ôl cyfnod o salwch.

Gan weithio’n agos gyda’i fentor, Hannah, a Chydlynydd Datblygu Gwirfoddolwyr yng Ngweithffyrdd+, daethpwyd o hyd i leoliad gwirfoddoli i Hadley yn swyddfa Theatr Gwaun.

Meddai Vanessa, Rheolwr Swyddfa Theatr Gwaun, “Mae Theatr Gwaun yn falch iawn o gynnig cyfle i Hadley wirfoddoli yn ein swyddfa brysur. Mae Hadley bob amser yn hynod brydlon wrth ddatblygu ei sgiliau swyddfa ac mae’n fwyfwy hyderus gyda phob ymweliad."

Mae Theatr Gwaun yn lleoliad a gynhelir gan y gymuned sy’n cynnig nifer o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ac mae’n dibynnu ar wirfoddolwyr i aros ar agor.

Dechreuodd Hadley drwy weithio ychydig oriau yn y swyddfa bob wythnos, ac ers mis Hydref mae wedi bod yn dysgu sgiliau swyddfa gwerthfawr. “Mae Hadley wedi bod yn hynod frwdfrydig am wirfoddoli yn y Theatr”, meddai Hannah ei fentor Gweithffyrdd+, “mae ei hunanhyder wedi gwella’n sylweddol ac mae’n awyddus iawn i gyflwyno ceisiadau am swyddi a fydd yn defnyddio ei sgiliau newydd.”

Gan sôn am ei ymrwymiad yn y prosiect Gweithffyrdd+, a’i waith gwirfoddoli, meddai Hadley, “Y peth mwyaf yw ei fod wedi rhoi hyder i mi.”

Meddai’r Cynghorydd Keith Lewis, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Chymunedau, “Mae’n wych gweld y prosiect Gweithffyrdd+ yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol i gefnogi pobl yn Sir Benfro i gael rolau sy’n cyfrannu at ddatblygu eu sgiliau eu hunain ac yn darparu buddion ehangach i’r gymuned. 

“Rwy’n gobeithio bydd yr hyder a’r sgiliau newydd y mae Hadley wedi’u hennill yn ei helpu i gyflawni ei nod o gael cyflogaeth yn yr ardal leol.”

Cefnogir Gweithffyrdd+ gan £7.5m o gronfeydd yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd â Chynghorau Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.

Mae Gweithffyrdd+ yn gweithio gyda phobl sy’n ddi-waith yn y tymor hir ac sy’n anweithgar yn economaidd i’w helpu i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth. Mae’r prosiect yn gweithio gyda chyfranogwyr i gael mwy o wybodaeth am eu profiad, eu sefyllfa bresennol a’r hyn y maent am ei gyflawni. Mae gan gyfranogwyr gefnogaeth mentor penodol a fydd yn eu tywys drwy eu cynlluniau gweithredu er mwyn iddynt gystadlu’n well ym marchnad lafur heddiw a chyflawni eu nodau yn y pen draw.