Pentref Trefol Coed Darcy

Pentref Trefol Coed Darcy

 
Coed Darcy
 
 
 
Datblygiad arfaethedig o 4000 o dai a chyfleusterau cymunedol yw Coed Darcy a fydd yn cael ei adeiladu yn ystod yr 20 mlynedd nesaf – ar gost oddeutu £1.2 biliwn.
 
Ar un adeg yn unig burfa BP yng Nghymru, mae’r datblygwyr wedi cynhyrchu cynllun enfawr i adeiladu eco-gymdogaeth newydd ar gyfer y dyfodol.
 
Mae St Modwen, y datblygwr cyffredinol, wedi cymryd y safle 1,000 o erwau gwasgarog drosodd ac mae’r gwaith o baratoi’r tir ar gyfer adeiladu’r 200 ty cyntaf wedi hen ddechrau.
 
Rhagwelir y bydd y datblygiad yn “...brosiect blaengar a fydd yn cryfhau datblygu economaidd a buddsoddi gan helpu i gynyddu’r dyheadau am ddatblygu ac adfywio ar draws Cymru”.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan BP mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sefydliad y Tywysog dros yr Amgylchedd Adeiledig. Fodd bynnag, yn gynt eleni, cafodd St Modwen y safle gan BP ynghyd â chyfrifoldeb am bob gwaith adferol.