Glan Môr Aberafan

Glan Môr Aberafan

aberavon beach

Dros y 10 mlynedd diwethaf, amcangyfrifir y cafwyd mwy na £30 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat yng Nglan Môr Aberafan.

Llwyddodd y cyngor i sicrhau arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac o Ewrop a ddefnyddiwyd i wella amgylchedd ffisegol yr ardal a chyflwyno cyfleusterau hamdden newydd. Mae hynny wedi helpu i wneud Aberafan yn lle deniadol i fyw a buddsoddi ynddo ac ymweld ag ef.

Gwariwyd hyd at £1.5 miliwn ar wella’r cyfleusterau parcio, tirlunio, gosod rheiliau promenâd newydd a gwella arwyddion, goleuadau a chelfi stryd. Ar yr un pryd, gwariwyd tua £2 filiwn ar ardaloedd chwarae newydd, Parc Sglefyrddio ac amffitheatr.

Adeiladwyd a gwerthwyd mwy na 240 o dai a rhandai dethol, gyda mwy o ddatblygiadau ar y gweill ar gyfer y dyfodol.

Mae atyniad Sinema’r Reel, parlwr hufen-iâ Remo a dau fwyty hefyd wedi helpu i ddenu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad, Bae Abertawe a’r tu hwnt.

Un o’r elfennau pwysicaf yw’r ffaith fod Traeth Aberafan ymhlith y 42 safle yn unig mewn 36 gwlad sydd wedi ennill statws y Faner Las i gydnabod safon rhagorol y dwr ac amrywiaeth y cyfleusterau y gall trigolion lleol ac ymwelwyr eu mwynhau

I gael rhagor o wybodaeth am Lan Môr Aberafan, ffoniwch Andrew Collins ar 01639 686416 neu e-bostiwch a.collins@npt.gov.uk