Owain prints out his future

Roedd Owain Jones, sy'n 41 blwydd oed, wedi bod yn ddi-waith am 20 o flynyddoedd.Ar ôl iddo orffen yn yr ysgol, astudiodd yn y brifysgol ac, wedi iddo orffen ei ail flwyddyn, dirywiodd ei iechyd a dechreuodd ddioddef o orbryder ac iselder difrifol.  Gwaethygodd ei iechyd ac, oherwydd ei gyflwr, doedd ganddo ddim hyder ac roedd yn ei chael hi'n anodd gadael ei gartref. 

Roedd Owain wir eisiau gwella ei sefyllfa felly dechreuodd ei ddysgu ei hun sut i raglennu cyfrifiaduron, gosod caledwedd a datrys problemau er mwyn gwella'i sgiliau. Yn ogystal â hyn, dechreuodd ymchwilio i therapi ymddygiad gwybyddol a sut y gallai addasu hyn i'w sefyllfa ei hun; dechreuodd wthio'i hun i adael y tŷ.

Ym mis Gorffennaf 2016, cyfeiriwyd Owain i Gweithffyrdd+ gan ei dîm Cymunedau'n Gyntaf lleol. Cafodd fentor personol a weithiodd gydag Owain i feithrin ei hyder a'i helpu i fod yn barod ar gyfer gwaith. Pan roedd Owain yn teimlo'n barod, gwnaeth ambell leoliad profiad gwaith, a arweiniodd at gyfle gwaith 3 mis â thâl gyda 4 Colour Digital, arbenigwyr argraffu digidol ym Mhort Talbot.

Ffynnodd Owain yn ei rôl newydd; nid oedd yn dysgu sgiliau newydd yn y gweithle'n unig, roedd yn defnyddio'i sgiliau rhaglennu a ddysgodd i helpu i ehangu cynnyrch a gwasanaethau'r cwmni. Ar ôl ei leoliad, roedd swydd wag ar gael ac mae bellach yn gweithio amser llawn ac mae wrth ei fodd.

Meddai Owain, "Mae bod mewn swydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae gen i fwy o hyder ac rwy'n mwynhau codi yn y bore a mynd i wneud rhywbeth rwy'n dwlu arno. Rwy'n defnyddio sgiliau rhaglennu i ddatblygu cynnyrch newydd yn y cwmni. Pe na bawn wedi cael help gan Gweithffyrdd, fyddwn i ddim wedi cael y cyfle hwn. Rwyf cymaint yn hapusach nawr ac mae fy ngorbryder wedi lleihau'n sylweddol.  "

Meddai Geraint, Cyfarwyddwr yn 4 Colour Digital “Dechreuodd Owain weithio gyda ni'n wreiddiol fel cynorthwy-ydd gweinyddol, ond roedd hi'n glir ar ôl ychydig ddiwrnodau o weithio gydag ef ei fod yn dalentog  iawn. Yr unig ffordd y gallaf ddisgrifio hyn yw bod cael Owain mewn rôl weinyddol fel cael gyrrwr Fformiwla 1 yn gyrru fan laeth. Sylweddolon ni botensial Owain yn gyflym a'i fod yn mynd i fod yn gaffaeliad gwych i'r tîm. Rydym bellach yn gallu canolbwyntio ar ochr TGCh y cwmni gan mai Owain yw'r sbardun profiadol sy'n helpu i'r cwmni dyfu."

Meddai Gareth Nutt, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Mae stori Owain yn enghraifft berffaith o'r potensial gwych y gall llawer o bobl ei wireddu pan maent yn derbyn y math cywir o gefnogaeth. Roedd Owain wedi cymryd camau cadarnhaol iawn ar ôl cyfnod hir o fod yn ddi-waith ac roedd y cysylltiadau cryf sydd gan y rhaglen Gweithffyrdd+ â busnesau lleol wedi'i alluogi i gymryd y cam nesaf a chael profiad gwaith hanfodol. Hoffwn longyfarch Owain ar ei lwyddiant a dymuno pob llwyddiant iddo yn ei yrfa yn y dyfodol."

Cefnogwyd Gweithffyrdd+ gan £7.5 miliwn o arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion.

I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch Nerys Griffiths ar (01639) 684250 neu anfonwch e-bost ati, n.griffiths1@npt.gov.uk