Dream job with Burns
Prosiect cyflogaeth yn helpu tri pherson i ddod o hyd i waith yn Sir Caerfyrddin
Mae tri dyn lleol o Sir Gâr wedi llwyddo i sicrhau swyddi gyda Burns Pet Nutrition drwy brosiect cyflogaeth a gefnogir gan yr UE.
Mae prosiect Gweithffyrdd+ wedi helpu 3 chyfranogwr i ddychwelyd i gyflogaeth yn Burns Pet Nutrition yng Nghydweli. Ymunodd Lee Neale, Simon Howard a Jason Davies â phrosiect Gweithffyrdd+ ar ôl bod yn ddi-waith ers cyfnod sylweddol, ond drwy gefnogaeth Gweithffyrdd+, roeddent yn barod i ddychwelyd i'r farchnad lafur.
Meddai Jason, un o gyfranogwyr Gweithffyrdd+, "Roeddwn wedi bod yn ddi-waith ers 2½ flynedd pan welais hysbyseb am brosiect Gweithffyrdd+ yn y Ganolfan Byd Gwaith yng Nghaerfyrddin. Es i i weld a allent fy helpu a dywedon nhw ar unwaith y gallent. Bu fy mentor yn helpu gyda fy CV a gofynnodd ble hoffwn weithio. Dywedais y byddwn wrth fy modd yn gweithio gyda Burns Pet Nutrition gan fy mod wedi clywed bod y cwmni'n un gwych. Ar ôl cwpl o wythnosau, galwodd fy mentor i ddweud ei fod wedi sicrhau cyfweliad i fi â Burns ac roeddwn ar ben fy nigon. Cefais swydd tymor byr i ddechrau ond ers hynny mae wedi'i hymestyn i fis Mawrth y flwyddyn nesaf ac yn hwy o bosib.
"Rwyf wrth fy modd gan fy mod yn dwlu ar weithio gyda Burns. Rwy'n teimlo fel rhan o deulu, mae'r oriau'n wych ac rwy'n mwynhau'r gwaith," meddai Jason.
Meddai John Burns, "Diolch i Weithffyrdd+ a Rhaglen Esgyn, mae 4 aelod newydd o staff sydd i gyd yn hynod weithgar ac yn dra medrus. Rydym wedi cael ein synnu gan y bobl ddawnus sydd ar gael ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r ddau sefydliad yn y dyfodol."
Meddai Jacob Williams, Arweinydd Tîm Gweithffyrdd+, "Mae Gweithffyrdd+ yn falch o'r gefnogaeth a roddwyd gan Burns. Mae ansawdd bywyd y gweithwyr newydd wedi gwella'n sylweddol. Mae'n enghraifft berffaith o weithio mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a busnes lleol."
Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion. Nod y prosiect, sy'n derbyn £7.5 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal unigolion rhag cael swyddi.
Meddai'r Cyng. Meryl Gravell, Aelod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr dros Adfywio a Hamdden, "Rwy'n falch bod Gweithffyrdd+ wedi gallu rhoi'r cyfle hwn i Lee, Simon a Jason. Maent yn elwa o weithio i Burns ac mae'n glir bod y cwmni'n elwa o'u cyflogi. Mae ysbryd cymunedol Burns yn destun pleser.
"Mae Gweithffyrdd+ yn chwarae rôl werthfawr wrth helpu pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser hir i gael gwaith."