Mae mam yn gofalu yn dychwelyd i'r gwaith

Ar ôl bron 14 o flynyddoedd o’r gweithle, yn gofalu am ei mab awtistig, roedd Emma Williams am ddychwelyd i’r gwaith ond roedd yn methu canfod swydd a oedd yn cyd-fynd â threfn ddyddiol ei mab. Cyfeiriwyd Emma at Gweithffyrdd+ a gynigiodd amrywiaeth o gymorth iddi gan gynnwys profiad gwaith â thâl, hyfforddiant a chyfle i fagu hyder. Unwaith roedd Emma’n barod, nodwyd bod Tomms Care yn gwmni addas iddi ddechrau ar ei thaith i gyflogaeth.

Mae Tomms Care ym Mhort Talbot, yn darparu gwasanaeth unigol i oedolion ifanc ag awtistiaeth ac anableddau cysylltiedig. Bu Emma ar brofiad gwaith â thâl gyda nhw gan fwynhau’n fawr. Yna aeth ymlaen i gwblhau gwaith â thâl am 3 mis ac yn dilyn hynny cynigiwyd swydd 30 awr barhaol iddi.

Meddai Emma, “Roeddwn wrth fy modd, roedd dychwelyd i’r gwaith yn gam mawr ar ôl 14 o flynyddoedd ond roeddwn yn teimlo’n barod. Gwnaeth fy mentor fy helpu’n sylweddol, gwnaeth fy helpu i fagu hyder a gwneud i mi sylweddoli y gallwn gynnig rhywbeth yn ôl. Roeddwn am weithio yn y sector gofal gan fy mod am gefnogi teuluoedd a phlant eraill a oedd yn wynebu’r un pethau â mi. Ar ôl cyfnod prawf o 3 mis, roeddwn mor hapus i gael cynnig swydd barhaol. Rwy’n dysgu sgiliau newydd bob dydd y gallaf eu haddasu i’m bywyd gartref wrth ofalu am fy mab. Mae bywyd yn llawer gwell yn awr, mae gennyf gyflog rheolaidd ac rwy’n llawer mwy hyderus.”

Meddai Carol Williams, Cyfarwyddwr Tomms Care, “Ymunodd Emma â ni am leoliad 3 mis i ddechrau ac mae wedi ymgartrefu’n berffaith yn y tîm. Mae’n wych gyda defnyddwyr gwasanaeth ac mae pawb yn dwlu arni. Roedd Emma’n gallu addasu ei phrofiad personol ar gyfer y gwaith, ac rydym wrth ein boddau ei chael hi’n rhan o’r tîm. Rydym wedi gweithio gyda Gweithffyrdd+ yn y gorffennol ac wedi meithrin perthynas dda gyda nhw, felly maent yn gwybod y math o bobl rydym yn chwilio amdanynt. Byddwn yn bendant yn eu defnyddio nhw eto.”

Meddai’r Cynghorydd Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot,"Dyma enghraifft ardderchog arall o’r gefnogaeth y gall Gweithffyrdd+ ei chynnig i geiswyr gwaith lleol a chyflogwyr fel ei gilydd.  Mae clywed barn Emma a Carol yn dangos y cymorth pwysig y mae’r prosiect yn ei gynnig."

Cefnogir Gweithffyrdd+ gan £7.5 miliwn o arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd â Chynghorau Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.