Darllen Amdani

Darllen Amdani

Llwyddiant Sian Andrews, y Datblygydd Gwefannau Anabl

Mae gan Sian Andrews, sy’n ddatblygwr gwefannau a swyddog gweinyddol rhan amser, yn atgofion dda o’r 22ain o Fawrth 2019



Gweithffyrdd+ yn helpu Rob i adeiladu bywyd gwell

Yn 48 oed, heb lawer o sgiliau ac allan o waith ers amser maith, nid oedd Rob Driscoll yn credu bod llawer o gyfle ganddo i ddod o hyd i swydd y byddai’n ei mwynhau.



Gwirfoddolwch i gael dyfodol disglair

Mae pobl yn gwirfoddoli am resymau amrywiol. Mae rhai yn gwirfoddoli er mwyn datblygu eu hyder, eu sgiliau a'u profiad gwaith ac mae eraill yn gwirfoddoli gan eu bod nhw'n hoffi cwrdd â phobl newydd ac yn croesawu'r cyfle i adeiladu bywyd cymdeithasol gwell.

 

Mam yn goresgyn salwch a hyder isel i ddechrau gyrfa newydd


Bu'n rhaid i gyn-weithwyr y sector gofal, Hannah Howells (dde gyda Carol Workways+) roi gorau i'w swydd yn dilyn cyfnod hir o salwch gwanychol. Yn 32 oed, roedd Hannah yn teimlo fel ei bod mewn sefyllfa anodd iawn.

 



Dim Mny hwyr I dechrau gyrfa newydd


Pan fo afiechyd yn rhoi terfyn ar eich cyflogaeth ond rydych yn brwydro ymlaen er gwaethaf caledi economaidd a diffyg hunan-barch, rydych chi'n gobeithio y bydd rhywbeth ar ryw bwynt yn mynd yn iawn. Yn achos Angela, digwyddodd hyn pan gafodd ei chyflwyno i wasanaeth Gweithffyrdd+.



Gweithffyrdd+ yn helpu Raymond i lwyddo


Mae Raymond Ray, 52 oed, mor hapus yn ei swydd newydd mae bellach am annog eraill sydd wedi dioddef anobaith diweithdra yn y tymor hir i ddilyn ei lwybr at lwyddiant. Ar ôl cael ei gyflogi'n achlysurol am 15 mlynedd, cafodd Raymond anhawster wrth geisio dod o hyd i swydd sefydlog, ac yn ei farn ef, achoswyd y broblem hon o ganlyniad i'w anawsterau clywed, bylchau yn ei hanes cyflogaeth, diffyg cymwysterau a'i yfrifoldebau   

Brwdfrydedd dros ofal yn arwain at yrfa newydd

Cymhwysodd Christopher Martin Evans fel trydanwr ym 1991 ond sylweddolodd yn gyflym nad hon oedd ei swydd ddelfrydol. Er gwaethaf llwyddiant yn y busnes, roedd ganddo ysfa gyson i weithio mewn maes roedd yn frwd drosto. Pan gollodd Christopher ei drwydded yrru, daeth ei yrfa fel trydanwr i ben yn sydyn.




Trwydded yrru wagen fforch godi yn rhoi hwb i Justin

Gyda llawer o broblemau iechyd gan gynnwys arthritis difrifol, roedd ennill swydd amser llawn bob amser yn mynd i fod yn her i Justin Davies-Jones. Yn 14 oed, oherwydd iechyd gwael, gadawodd Justin yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Gyda hunan-barch isel a heb unrhyw brofiad gwaith, ac yn 26 oed, roedd Justin yn ysu i reoli ei fywyd.

 

Drysau'n agor i Mark


Meddai Mark, "Mae wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl gyda chymorth ar bob cam gan holl dîm Gweithffyrdd+. Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy'n cael trafferth wrth ddod o hyd i leoliad gwaith neu gyflogaeth. Bellach, rwy'n hapus yn y gwaith ac o'r diwedd mae gobaith am y dyfodol gennyf, yn ogystal â phethau pob dydd megis fy nghar fy hun a chartref â garej lle gallaf weithio ar fy mhrosiectau fy hun.”



Gweithffyrdd+ yn helpu sicrhau mwy o gyfleoedd gwaith gyda busnesau lleol

"Roedd Tîm Gweithffyrdd+ yn grêt i weithio gydag ac roedd Wendy, fy mentor, yn gefnogol tu hwnt. Fe wnaeth hi weithio’n galed iawn i ddod o hyd i swydd a oedd yn addas i mi. Ystyriodd Wendy fy rolau, profiadau a sgiliau blaenorol a cymryd fy nodau am ba fath o waith roeddwn i’n edrych am mewn i ystyriaeth. Darparodd Wendy gefnogaeth ymarferol i’m helpu trwy ysgrifennu CV, llenwi’r cais swydd a’r boses gyfweld. Rwy’n hapus dros ben i fod yn rhan o’r fenter newydd yma a bod yn rhan o dîm y ‘Moody Cow’. Byddwn i’n argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy’n ceisio mynd nôl i mewn i gyflogaeth.”


Cyn-filwr yn dychwelyd i gyflogaeth o ganlyniad i brosiect Gweithffyrdd+

“Ni allaf ddiolch ddigon i Gweithffyrdd+, roeddwn i mor awyddus i weithio ond wyddwn i ddim ble i ofyn cyngor. Rwy’n weithiwr caled, ac roeddwn ar bigau’r drain i ddychwelyd i gyflogaeth er mwyn gallu cynnal fy nheulu. Helpodd Jackie, fy mentor Gweithffyrdd+, i mi adennill fy hyder a gwneud i mi gredu yn fy ngallu fy hun unwaith eto. Ers i mi dderbyn cyflogaeth ac incwm sefydlog, mae fy mywyd wedi newid er gwell."





Gerald yn tynnu dŵr o'r dannedd yn ei rôl newydd

Meddai Gerald ‘Rwyf wedi bod heb swydd barhaol ers symud i Sir Benfro 5 mlynedd yn ôl, ond ers cael cefnogaeth gan Gweithffyrdd+ ym mis Awst y llynedd, mae pethau wedi gwella'n fawr i mi. Y peth gorau i mi oedd y gefnogaeth fentora mae Jackie wedi'i darparu. Rwyf wedi cael yr holl gefnogaeth yr oedd ei hangen arnaf. Rwy'n llawer mwy hapus a hyderus nawr fy mod yn ôl yn y gwaith.’





Menter fusnes newydd yn fêl i gyd


Meddai Sabrina, "Nid oeddwn erioed yn meddwl y byddwn yn cynnal fy musnes fy hun, breuddwyd i mi oedd hi ond nid oeddwn yn meddwl y byddai'n cael ei gwireddu. Gwnaeth Gweithffyrdd+ i mi sylweddoli ei bod yn bosib, gan fy nghofrestru ar y cyrsiau perthnasol yr oedd eu hangen arnaf i mi gael y tystysgrifau i ddechrau. Roedd fy mentor yn amyneddgar iawn ac roedd wedi gwneud llawer i mi. Diolch i Gweithffyrdd+, rwyf bellach yn gwneud fy swydd ddelfrydol ac yn cael fy nhalu am wneud hynny. Gallaf weithio o amgylch amserlen y plant, ac rwyf wrth fy modd."




Angela Johnson mewn gwaith diolch i Gweithffyrdd+

"Roedd gweithio gyda thîm Gweithffyrdd+ yn wych. Roedd fy mentoriaid mor gefnogol. Rhoddon nhw'r hyder i fi ganolbwyntio ar fy nghryfderau a chefais gefnogaeth ymarferol i gwblhau'r broses o lunio CV a llwyddo yn y cyfweliad. Flwyddyn yn ôl, ni fyddwn wedi credu y byddwn wedi cael swydd y byddwn yn ei mwynhau. Rwyf wrth fy modd ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd fy nheulu gan fod gennyf incwm sefydlog bellach a gallwn fwynhau ansawdd bywyd gwell.





David yn mentro iddi yn ei rôl newydd
Meddai David, "Mae'n fy helpu i fagu hyder ac mae'n rhoi'r cyfle i fi gwrdd â phobl. Dwi'n credu y bydd gwneud hyn yn fy helpu i gael digon o hyder i ymgeisio am swyddi yn y dyfodol. Mae'r staff yma yn The Bulldogs wedi rhoi croeso cynnes i fi wrth ymuno â'r tîm, a dwi'n mwynhau bod yn ôl mewn amgylchedd swyddfa a dwi'n mwynhau'r gwaith a dysgu sgiliau TG newydd."





Owain yn dilyn llwybr llwyddiant at gyfer y dyfodol

Owain Jones Press Release

Meddai Owain, "Mae bod mewn swydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae gen i fwy o hyder ac rwy'n mwynhau codi yn y bore a mynd i wneud rhywbeth rwy'n dwlu arno. Rwy'n defnyddio sgiliau rhaglennu i ddatblygu cynnyrch newydd yn y cwmni. Pe na bawn wedi cael help gan Gweithffyrdd, fyddwn i ddim wedi cael y cyfle hwn. Rwyf cymaint yn hapusach nawr ac mae fy ngorbryder wedi lleihau'n sylweddol.  "

 




Darren yn cael dechrau newydd gydag ‘Our Place’

Gweithffyrdd+ "Ni allai Gweithffyrdd+ wneud digon i mi. Cynorthwyodd fy mentor imi fagu hyder ac yr oedd wedi fy annog i roi cynnig ar rywbeth hollol newydd.  Awgrymodd Gweithffyrdd+ y dylwn wirfoddoli, felly dechreuais yn Our Place ac roeddwn yn dwlu ar y profiad gan fy mod yn dysgu sgiliau newydd ac yn defnyddio fy sgiliau saer coed i gynorthwyo'r defnyddwyr gwasanaeth i ddysgu hefyd.  Ar ôl 6 wythnos, cefais swydd ganddo, a gwnaeth y tîm fy nghroesawu’n fawr a’m hannog ar fy nhaith newydd. Mae dychwelyd i’r gweithle wedi gwneud byd o les i’m safon byw. Ni allaf ddiolch digon i staff Gweithffyrdd+ – gwnaethant fynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig i ddod o hyd i swydd i mi.".

 




Mam ofalgar yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl 14 o flynyddoedd

Workways+ Press release

Meddai Emma, “Roeddwn wrth fy modd, roedd dychwelyd i’r gwaith yn gam mawr ar ôl 14 o flynyddoedd ond roeddwn yn teimlo’n barod. Gwnaeth fy mentor fy helpu’n sylweddol, gwnaeth fy helpu i fagu hyder a gwneud i mi sylweddoli y gallwn gynnig rhywbeth yn ôl. Roeddwn am weithio yn y sector gofal gan fy mod am gefnogi teuluoedd a phlant eraill a oedd yn wynebu’r un pethau â mi. Ar ôl cyfnod prawf o 3 mis, roeddwn mor hapus i gael cynnig swydd barhaol. Rwy’n dysgu sgiliau newydd bob dydd y gallaf eu haddasu i’m bywyd gartref wrth ofalu am fy mab. Mae bywyd yn llawer gwell yn awr, mae gennyf gyflog rheolaidd ac rwy’n llawer mwy hyderus.”

 

‘Swyddfa Docynnau’ i Hadley

Workways+ Participant “Y peth mwyaf yw ei fod wedi rhoi hyder i mi.” Meddai Hadley

Meddai Vanessa, Rheolwr Swyddfa Theatr Gwaun, “Mae Theatr Gwaun yn falch iawn o gynnig cyfle i Hadley wirfoddoli yn ein swyddfa brysur. Mae Hadley bob amser yn hynod brydlon wrth ddatblygu ei sgiliau swyddfa ac mae’n fwyfwy hyderus gyda phob ymweliad."





Prosiect cyflogaeth yn helpu tri pherson i ddod o hyd i waith yn Sir Caerfyrddin

Burns Pet Nutrition jobs for Workways+ participants"Roeddwn wedi bod yn ddi-waith ers 2½ flynedd pan welais hysbyseb am brosiect Gweithffyrdd+ yn y Ganolfan Byd Gwaith yng Nghaerfyrddin. Es i i weld a allent fy helpu a dywedon nhw ar unwaith y gallent. Bu fy mentor yn helpu gyda fy CV a gofynnodd ble hoffwn weithio. Dywedais y byddwn wrth fy modd yn gweithio gyda Burns Pet Nutrition gan fy mod wedi clywed bod y cwmni'n un gwych. Ar ôl cwpl o wythnosau, galwodd fy mentor i ddweud ei fod wedi sicrhau cyfweliad i fi â Burns ac roeddwn ar ben fy nigon. Cefais swydd tymor byr i ddechrau ond ers hynny mae wedi'i hymestyn i fis Mawrth y flwyddyn nesaf ac yn hwy o bosib. Rwyf wrth fy modd gan fy mod yn dwlu ar weithio gyda Burns. Rwy'n teimlo fel rhan o deulu." meddai Jason.

 

Pobl leol yn cael gwaith tymor hir gyda pheth help gan brosiect cyflogaeth Lidl 

Workways+ participants"Heb gymorth Gweithffyrdd+, dwi ddim yn credu y byddwn wedi cael y swydd hon. Roedd fy mentor yn help mawr i fi, gan hybu fy hyder a'm hannog i ddilyn nifer o gyfleoedd. Gan fod cyflog rheolaidd gennyf bellach, bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fi a'm teulu." Meddai, Dean Higgins, un o gyfranogwyr Gweithffyrdd+,