Lidl help from Workways+

Mae'r prosiect Gweithffyrdd+, a gefnogir gan yr UE, wedi helpu tri chyfranogwr i ddychwelyd i gyflogaeth drwy ganfod gwaith iddynt yn siopau Lidl yng Nghastell-nedd a Phontardawe. Roedd 3 ohonynt yn ddi-waith am gyfnod sylweddol ond, drwy gefnogaeth Gweithffyrdd+, roeddent yn barod i ddychwelyd i'r farchnad lafur.

Mae Lidl ar fin agor siop newydd ym Mhontardawe y mis nesaf ac roedd nifer o swyddi gwag ar gael. Siaradodd Rheolwr Ardal Lidl, Ross Urwin, â Gweithffyrdd+ am recriwtio pobl leol. Trefnodd Gweithffyrdd+ ddiwrnod recriwtio yn y siop yng Nghastell-nedd lle dewiswyd ymgeiswyr i ddod i gyfweliadau. Aeth 12 ymlaen i wneud treialon gwaith yn siop Lidl Castell-nedd ac o ganlyniad cafodd 6 pherson eu recriwtio.

Derbyniodd cyfranogwyr amrywiaeth o gefnogaeth gan dîm Gweithffyrdd+, gan gynnwys cymorth gyda chwilio am swydd, help i ddatblygu CV, mynediad i hyfforddiant a phrofiad ar safleoedd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys rheoli stoc, ariannwr, gweithredwr warws a gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae Ross Urwin, Rheolwr Ardal Lidl, yn credu bod Gweithffyrdd+ yn chwarae rôl bwysig wrth helpu pobl ddi-waith i ganfod cyflogaeth addas.

Meddai, "Un o gryfderau Gweithffyrdd+ yw'r diwrnodau rhagflas maent yn eu cynnig. Roedd y sgiliau angenrheidiol gan rai ymgeiswyr ond nid oedd ganddynt hyder mewn cyfweliadau. Roedd Gweithffyrdd+ yn ein hannog i ystyried diwrnodau rhagflas yn y siop lle gallai darpar ymgeiswyr arddangos eu haddasrwydd i'r rôl a gallem weld eu sgiliau go iawn. Rwy'n gobeithio defnyddio Gweithffyrdd+ ar gyfer anghenion recriwtio Lidl yn y dyfodol.

Meddai, Dean Higgins, un o gyfranogwyr Gweithffyrdd+, "Heb gymorth Gweithffyrdd+, dwi ddim yn credu y byddwn wedi cael y swydd hon. Roedd fy mentor yn help mawr i fi, gan hybu fy hyder a'm hannog i ddilyn nifer o gyfleoedd. Gan fod cyflog rheolaidd gennyf bellach, bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fi a'm teulu.

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas, "Mae'n braf gweld y ffordd y mae prosiect Gweithffyrdd+ yn helpu pobl i gael gwaith, yn ogystal â bodloni anghenion cyflogwyr ar draws De-orllewin Cymru. Mae Gweithffyrdd+ wedi cael llwyddiant anhygoel yn yr hinsawdd economaidd bresennol oherwydd y perthnasoedd personol ardderchog sydd wedi'u meithrin rhwng staff y prosiect, cyfranogwyr a chyflogwyr yn y rhanbarth."

Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion. Nod y prosiect, sy'n derbyn £7.4 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal unigolion rhag cael swyddi.