Aberavon Leisure Facilities

Glan Môr Aberafan

Mae aelodau Cabinet Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer y ganolfan chwaraeon Lido Afan newydd.

Golyga hyn y gall y datblygwr sydd ar ôl yn y broses tendro gyflwyno cais cynllunio yn yr wythnosau sydd i ddod.

Y nod yw i'r gwaith adeiladu ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn.  Amcangyfrifir y bydd y prosiect yn cymryd oddeutu 15 mis i'w gwblhau.

Mae hyn yn dilyn cadarnhad Cyngor y Cabinet ym mis Chwefror o argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Craffu trawsbleidiol a sefydlwyd i ystyried yr adeilad newydd i'r Lido Afan a ddinistriwyd gan dÂn ym mis Rhagfyr 2009.

Bydd y cyfleuster newydd gwerth £13.4 miliwn, a fydd yn cael ei adeiladu ar safle Parc Hollywood, ger y sinema ar Lan Môr Aberafan, yn cynnwys:

- Pwll nofio 25 metr ag 8 lôn, gyda thrawst a llawr symudol
- Pwll i ddysgwyr/sblasio
- Oriel 100 sedd ar ochr y pwll
- Cyfleusterau newid ar yr ochr wlyb a'r ochr sych
- Caffi
- Ardal chwarae meddal dan do i blant
- Ystafelloedd cyfarfod cymunedol
- Cyfleuster clwb ieuenctid
- Ystafell ffitrwydd 100 gorsaf
- Stiwdio ddawns/dojo ar y cyd
- Ystafell droelli
- Neuadd Chwaraeon 4 cwrt gyda seddi ar gyfer 100 o wylwyr (6 chwrt os yn bosib.