Croeserw Enterprise Centre

Canolfan Fenter Croeserw

Mae cyfleuster cymunedol cyfoes newydd i drigolion Croeserw wedi'i gymeradwyo ar ôl cael cyfraniad gwerth £2.4 miliwn o arian Ewropeaidd.

Croeserw MUGA

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal sawl ymgynghoriad i gael gwybod beth sydd ei angen ar y pentref ac mae wedi gweithio'n agos gyda phobl leol i gytuno ar ffordd ymlaen.

Caiff y ganolfan newydd, gwerth cyfanswm o £3.4 miliwn, ei hadeiladu ar hen safle Rhiw Lech View. Caiff y ganolfan gymunedol bresennol ei dymchwel a chaiff y tir ei dirlunio'n ardal werdd.

Bydd y ganolfan newydd yn darparu lle hyblyg ar gyfer mentrau cymunedol a busnesau bach newydd sy'n dechrau. Bydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfleusterau cymunedol megis ardal ieuenctid a hyfforddiant TG ddynodedig a dau weithdy llawn cyfarpar ar gyfer cyrsiau hyfforddi sgiliau adeiladu a thrin gwallt a harddwch.

Bwriedir adeiladu caffi cymunedol hefyd a fydd yn cynnig bwydlen iach a man cwrdd ar gyfer holl aelodau'r gymuned leol.

Byddai'r ganolfan yn cael ei rheoli yn y lle cyntaf gan y cyngor ond yn y pen draw, byddai'n cael ei throsglwyddo i'r gymuned.