Port Talbot Parkway

Port Talbot Parkway

Mae cynghorwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi rhoi caniatâd i barhau â'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar orsaf drenau Port Talbot Mae'r cynlluniau'n cynnwys gorsaf fodern sy'n dirnod ar gyfer y 21ain ganrif.

Mae cynlluniau'n cynnwys pont droed newydd wedi'i hamgáu, gyda lifftiau sy'n darparu mynediad heb risiau i'r platfform. Bydd swyddfa docynnau newydd a mannau aros yn ogystal â chaffi ac ardal fanwerthu, toiledau newydd a gwelliannau i wybodaeth cwsmeriaid a CCTV. Mae'r datblygiad yn cynnwys maes parcio â 200 o leoedd, a gwasanaeth parcio a theithio i gymudwyr ynghyd â chyfleusterau gwell i feicwyr, teithwyr bysus a thacsis.

Caiff y prosiect ei reoli ar y cyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Network Rail, Trenau Arriva Cymru a Llywodraeth Cymru.