Rheola Estate

Cynghorwyr yn ystyried cynigion ar gyfer dyfodol YstÂd Rheola

Bydd cynghorwyr yn ystyried cynigion ar gyfer dyfodol YstÂd Rheola yng Nghwm Nedd.

Mae'r cynigion yn rhan o brif gynllun a luniwyd rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a pherchennog yr ystÂd yn dilyn ymgynghoriad  Chynulliad Cymru a Cadw.

Mae'r cais cynllunio wedi'i gyflwyno ac mae'n cynnwys datblygiad preswyl ar ran o'r ystÂd i godi peth o'r arian mae ei angen i ddatblygu'r cynllun twristiaeth a hamdden.

Ceir cynigion ar gyfer codi cabanau pren ar yr ystÂd, ynghyd  chyfadeilad hamdden a fyddai'n cynnwys pwll nofio, sba, campfa, bwyty, bar a siop, i'w defnyddio gan dwristiaid sy'n aros yn Rheola ac ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.

Mae cais cynllunio eisoes wedi'i gyflwyno i adleoli'r farchnad i hen safle TRW.

Mae YstÂd Rheola ar gyrion Resolfen mewn ardal a gaiff ei chynnwys yng nghynlluniau'r cyngor ar gyfer adfywio Cwm Nedd. Gyda Gwlad y Sgydau gerllaw, mae'r ardal yn boblogaidd gyda thwristiaid ac mae'r datblygiad yn cyd-fynd  strategaeth twristiaeth a hamdden y cyngor yn dda.

Dywedodd Gareth Nutt, Pennaeth Adfywio, "Cafwyd diddordeb gan ddiwydianwyr i ddatblygu'r safle, ond mae'r cyngor yn ystyried y bydd adfywio'r rhan hon o'r cwm a'r ystÂd yn y dyfodol yn canolbwyntio ar dwristiaeth a hamdden.

"Mae hon yn rhan hardd o Gwm Nedd a bydd y prif gynllun hwn yn sbardun i ddatblygu dyheadau'r cyngor ar gyfer y dyfodol."

NODYN I'R GOLYGYDD
Mae'r safle 95 o erwau'n cynnwys tÅ· gwreiddiol Rheola a ddyluniwyd gan John Nash, y pensaer o gyfnod y Rhaglawiaeth, ym 1809. Mae arbenigwyr yn nodi'r ystad yn un o'r pum prosiect pwysicaf gan John Nash ym Mhrydain.

Mae gan yr ystÂd dreftadaeth ddiwydiannol bellach yn dilyn adeiladu ffatri arfau rhyfel ar y tir ym 1939. Fe'i defnyddir ar hyn o bryd fel marchnad dan do.