Harbourside Port Talbot

Pentref Ymchwil a Datblygu i ddenu swyddi i Port Talbot

Mae cynlluniau ar gyfer pentref ymchwil a datblygu newydd yng Nglannau'r Harbwr ym Mhort Talbot gam yn nes at gael eu gwireddu o ganlyniad i grant gan Gronfa Datblygu Eiddo De-Orllewin Cymru.

Mae Cyngor Castell-nedd a'r datblygwyr Deryn Properties wedi llwyddo i gael cymeradwyaeth am y grant a fydd yn galluogi denu rhagor o gwmnïau newydd i ddatblygiad newydd Glannau'r Harbwr.

Mae hyn yn hwb mawr i gynllun y cyngor am yr ardal a luniwyd er mwyn gwneud y gorau o fanteision Ffordd yr Harbwr, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd.

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer datblygiad gwerth £6.3 miliwn a fydd yn cynnwys tri adeilad ar safle 42,000 tr. sgw. gyda mwy o le i ehangu. Y penseiri yw Rio Architects o Gaerdydd.

Mae swyddogion wedi nodi safle ger Llys yr Ynadon newydd yng Nglannau'r Harbwr a chaiff cais am ganiatÂd cynllunio ei gyflwyno.

Daethpwyd o hyd i denantiaid ar gyfer rhan o'r datblygiad eisoes ac maent yn cynnwys TWI a TATA Steel, Bydd y lle ychwanegol yn caniatáu i fwy o gwmnïau symud i'r datblygiad.

Meddai John Flower, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd, "Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda datblygwyr yn y sector preifat i sicrhau grant er mwyn adeiladu pentref ymchwil a datblygu yng Nglannau'r Harbwr. Yn ogystal  TATA a TWI, bydd yn denu cwmnïau eraill tebyg a bydd hynny'n cyd-fynd Â'n cynlluniau ar gyfer adfywio ardal y dociau. Mae'n galonogol iawn gweld ein blaengynlluniau ar sail buddsoddiad yng Nglannau'r Harbwr yn dwyn ffrwyth eisoes gyda'r datblygiad o safon hwn.

Meddai David Stacey o'r datblygwyr Deryn Properties, "Mae'n bleser gennym fuddsoddi ym Mhort Talbot ac rydym yn teimlo'n gyffrous iawn am y cyfleoedd adfywio yng Nglannau'r Harbwr. Bydd y Pentref Ymchwil a Datblygu hwn yn dod  swyddi da i'r Fwrdeistref Sirol ac yn denu buddsoddiad ychwanegol gan gwmnïau sy'n ymwneud  thechnolegau arloesol".