Gwasanaeth cefnogi newydd i helpu pobl sy'n ddi-waith yn y tymor byr i gael cyflogaeth

Mae gwasanaeth newydd wedi'i lansio i sicrhau bod pobl sy'n ddi-waith yn y tymor byr yn Ne-orllewin Cymru'n cael y cymorth ymarferol sydd ei angen er mwyn cael Gwaith. 

Caiff ei ddarparu gan dîm hynod fedrus a phrofiadol Gweithffyrdd+ sydd bellach yn gallu cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am ddiwrnod neu flynyddoedd, diolch i fuddsoddiad ychwanegol o £3m o gyllid yr UE a ddarparwyd drwy Lywodraeth Cymru.  Mae'r gwasanaeth DTB (Di-waith Tymor Byr) ar gael drwy sefydliad Gweithffyrdd+ yng Nghastell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.

 

 

Gall pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth DTB ddisgwyl cael cefnogaeth un i un gan fentor cyflogaeth profiadol a gofalgar, a byddant yn gweithio gyda nhw i ddatblygu eu CV, cwblhau ffurflenni ymgeisio am swydd, paratoi ar gyfer cyfweliadau a chwilio am swyddi. Mae'n bosib hefyd y byddant yn cael hyfforddiant sgiliau wedi'i ariannu'n llawn, dillad ar gyfer cyfweliadau, offer personol amddiffynnol a dillad gwaith. Gall diweithdra fod yn drawmatig ac mae'r tîm o fentoriaid yn deall hyn. Byddant yn helpu pobl i fagu hyder a pharatoi ar gyfer gwaith. Mae pob aelod o'r tîm mentoriaid yn ymfalchïo yn y ffordd y maent yn helpu pobl ac maent ar ben eu digon pan fyddant yn helpu pobl i gael swyddi.
    
Meddai'r Cyng. Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Rydym yn falch iawn o allu cynnig gwasanaeth cefnogi ychwanegol i bobl yn ein cymunedau, un sy'n ymroddedig i helpu pobl ifanc i gael cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy. Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, a'r heriau a'r pwysau sy'n dod yn ei sgîl, bydd y fenter Di-waith Tymor Byr yn darparu cymorth amserol ac amhrisiadwy i'r rheini y mae angen y math hwn o gefnogaeth arnynt."

Meddai Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, "Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu pobl sy'n ddi-waith yn y tymor byr, y mae llawer ohonynt yn y sefyllfa hon oherwydd pandemig COVID-19. Mae'n gefnogaeth hanfodol a fydd yn helpu pobl i gael gwaith yn gyflymach, dysgu sgiliau newydd ac elwa o gyfleodd hyfforddiant sydd wedi'u hariannu'n llawn. Mae Gweithffyrdd wedi helpu miloedd o bobl yn Ne-orllewin Cymru dros lawer o flynyddoedd felly rwy'n falch o allu darparu'r cyllid ychwanegol hwn i ymateb i'r anawsterau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Ariennir Gweithffyrdd+ a'r fenter DTB gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac mae ei staff yn swyddogion a gyflogir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion. Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n arwain y ddau wasanaeth.

I ddod o hyd i'ch swyddfa leol, ewch i www.workways.wales