Llwyddiant Sian Andrews, y Datblygydd Gwefannau Anabl



Mae gan Sian Andrews, sy’n ddatblygwr gwefannau a swyddog gweinyddol rhan amser, yn atgofion dda o’r 22ain o Fawrth 2019, oherwydd dyna pryd gaeth gwefan newydd y bu hi’n rhan ganolog o’i datblygiad, ei lansio -www.AccessPembrokeshire.co.uk.


Mae Sian yn angerddol dros wella ymwybyddiaeth o’r materion sy’n ymwneud â hygyrchedd i’r anabl, a chanddi ddiagnosis o awtistiaeth ei hun. A gyda chymorth Gweithffyrdd+, cafodd y gefnogaeth berffaith i’w galluogi hi i wneud hynny.

yn 2016, cafodd Sian ei chyfeirio at dîm Gweithffyrdd+ Sir Benfro gan Shaw Trust. Penodwyd mentoriaid, Hannah a Nigel, yn arbennig ar ei chyfer hi er mwyn cynnal sesiynau un-i-un, a gwelwyd yn fuan fod gan Sian botensial mawr. Wedi cyfnod o weithio gyda hi i adeiladu ei hyder ac i ddatblygu ei sgiliau gweithio, trefnwyd fod Sian yn ymuno â grŵp gwirfoddol Gweithffyrdd+, grŵp a oedd wrthi’n datblygu gwefannau newydd i ateb anghenion Sir Benfro.

Gyda chefnogaeth barhaus Hannah, Nigel, ac un o weinyddwyr Gweithffyrdd+, Daniel Martin, roedd Sian yn ffynnu o fewn y grŵp gwirfoddol, gan ddatblygu ei sgiliau digidol a chyfrannu llawer yn gymdeithasol hefyd.

Defnyddiwyd brwdfrydedd Sian dros amlygu gwybodaeth am hygyrchedd anabl er mwyn adeiladu gwefan newydd www.AccessPembrokeshire.co.uk. Crëwyd y wefan er mwyn gwella ymwybyddiaeth o’r cyfleusterau sydd ar gael i’r anabl mewn mannau sector breifat a sector gyhoeddus yn Sir Benfro, yn ogystal â’u hygyrchedd.

Gyda chefnogaeth Gweithffyrdd+, mae gwaith Sian i ddatblygu’r wefan wedi ehangu i gynnwys canfod a golygu yn yr adran Newyddion a Digwyddiadau, yn ogystal ag ychwanegu mapiau, botymau, a gwe-ddolenni. Roedd ei chyfraniad mor werthfawr fel ei bod hi bellach yn cael ei chyflogi dri diwrnod yr wythnos i weithio ar y wefan.
Llwyddodd Nigel i sicrhau safle gwirfoddoli i Sian o fewn Cyngor Sir Penfro hefyd, lle mae hi’n gweithio fel gweinyddydd. Roedd Sian yn frwdfrydig iawn wrth dderbyn y cyfle, a datblygwyd ei sgiliau hi ymhellach o wneud. Wedi rhai wythnosau o wirfoddoli, cynigiodd y Cyngor swydd barhaol 16 awr yr wythnos i Sian, . Erbyn hyn, mae Sian yn fwy annibynnol nag y bu hi erioed o’r blaen.

Roedd derbyn cyflogaeth yn rhywbeth a oedd yn golygu llawer i Sian.
Dywedodd, ‘Rwy’n gwneud rhywbeth sy’n rhoi boddhad mawr i mi. Rwy’n mwynhau’r gwaith ac rwy’n mwynhau cymdeithasu yn y gwaith a chwrdd â phobl hefyd. Mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn edrych ymlaen ato bob tro y byddaf yn mynd i’r gwaith. Mae pobl Gweithffyrdd+ yn glen iawn, ac maent wedi bod yn wych wrth roi cymorth i mi wneud yr hyn yr wyf yn angerddol amdano. Rwy’n falch iawn o’r gwaith yr wyf yn ei wneud, ac mae fy nheulu’n falch iawn hefyd. Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy’n awyddus i wneud y gorau o’u bywydau.”

Dywedodd Karen Davies, Rheolwr Prosiect Gweithffyrdd+ Sir Benfro, “Bu’n bleser gwylio Sian yn datblygu, ac mae’n wych cael gweld y gwahaniaeth rhwng y Sian sydd yma heddiw â’r Sian a wnaethom gyfarfod y tro cyntaf. Ein bwriad ni yma yn Gweithffyrdd+ yw helpu pobl sy’n segur yn economaidd i wella eu bywydau trwy wirfoddoli, trwy hyfforddi, neu trwy dderbyn profiad gwaith a chyflogaeth. Dylai unrhyw un, waeth beth yw eu rhwystrau, ddod i siarad gyda ni. Os na allwn ni helpu, gallwn eu cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.”

Mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl i wella eu bywydau trwy wirfoddoli, trwy dderbyn profiad gwaith, hyfforddiant, a chyflogaeth. Caiff Gweithffyrdd+ ei noddi’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Llywodraeth Cymru.

Er mwyn derbyn cymorth gan Gweithffyrdd+, ffoniwch 01437 776609 www.workways.wales