Gweithffyrdd+ yn helpu Rob i adeiladu bywyd gwell





O'r chwith i'r dde Mike Miles, Miles Plant Hire, Rebecca Hughes, Workways+ and Rob Driscoll, Miles Plant Hire 

Yn 48 oed, heb lawer o sgiliau ac allan o waith ers amser maith, nid oedd Rob Driscoll yn credu bod llawer o gyfle ganddo i ddod o hyd i swydd y byddai’n ei mwynhau. Yn wir, bron iddo anobeithio’n llwyr. Yna, cafodd ei gyflwyno i Gweithffyrdd+ a newidiodd ei fywyd. Mae prosiect Gweithffyrdd+ wedi ymrwymo i helpu pobl i wella eu bywydau trwy waith gwirfoddol, profiad gwaith, hyfforddiant a chyflogaeth.

Yn y gorffennol, roedd Rob wedi gofalu am ei fam a gwneud amryw swyddi dros dro yn y diwydiant adeiladu. Roedd Rob o dan straen aruthrol ac, o bryd i’w gilydd, trodd y straen yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhwystr arall amlwg oedd yr holl fylchau hir yn ei gofnod cyflogaeth.

Cofrestrodd Rob â Gweithffyrdd+ ym mis Rhagfyr 2016 ond, oherwydd y straen a’r gorbryder a achoswyd gan ei sefyllfa, nid oedd yn gallu manteisio ar y cymorth oedd ar gael. Fodd bynnag, yn y pen draw, ymrwymodd yn llawn i’r prosiect ac nid yw Rob wedi edrych yn ôl ers hynny. Gweithiodd mentor Gweithffyrdd+ dynodedig gyda Rob ar sail un i un.

Gweithiodd mentor Rob gydag ef er mwyn penderfynu pa fath o swydd yr hoffai ei gwneud. Mae Rob yn mwynhau gwaith ymarferol a bywyd yn yr awyr agored, felly roedd y diwydiant adeiladu yn lle da i gychwyn. Helpodd Gweithffyrdd+ iddo ysgrifennu CV, i chwilio am swydd ac i fagu hyder. Yn ogystal, ariannodd y prosiect gais Rob am gerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a’i helpu i basio’r prawf ar-lein. Heb gerdyn y Cynllun

Ardystio Sgiliau Adeiladu, ni allwch weithio ar safle adeiladu. Y cam nesaf oedd dod o hyd i leoliad gwaith addas er mwyn i Rob gael cyfle i ddatblygu ei sgiliau ac ennill profiad. Ariannodd Gweithffyrdd+ ‘Gyfle Gwaith â Thâl’ iddo gyda’r cwmni adeiladu o Sir Benfro, Miles Plant Hire. Cynhelir ‘Cyfleoedd Gwaith â Thâl’ dros gyfnod o 16 wythnos ac maen nhw’n galluogi busnesau i gyflogi a darparu profiad gwaith i bobl heb gost iddyn nhw. Dechreuodd Rob weithio i Miles Plant Hire gan fwynhau’r swydd yn fawr. Llafurwr cyffredinol oedd swydd Rob i ddechrau, ac mae wedi arddangos brwdfrydedd mawr ac ymrwymiad i’r rôl.

Dywedodd Mike Miles, goruchwyliwr Miles Plant Hire: “Rob yw’r cyntaf i gyrraedd y safle a’r olaf i adael bob dydd. Mae’n esiampl ardderchog i bawb. Mae Rob yn hapus, yn gydweithredol, yn barod i ddysgu ac i ymgymryd â rolau newydd. Rydym ni’n hyderus i fuddsoddi ynddo. Dechreuodd Rob trwy balu sylfeini, ond dangosodd ei fod yn barod ac yn gallu gwneud tasgau eraill, er enghraifft adeiladu cyrbau, sgaffaldio, tirlunio a chymysgu concrid. Bellach, mae Rob yn gwneud rolau gwahanol gyda’r cwmni ac rydym wrthi’n ei hyfforddi i ddefnyddio offer megis y JCB a’r lori ddadlwytho.”

Daeth cyfnod ‘Cyfle Gwaith â Thâl’ Rob i ben ar 21 Ebrill, ac roedd Miles Plant Hire yn falch iawn i gynnig swydd amser llawn iddo ar ôl hynny.

Dywedodd Rob: “Rhoddodd Gweithffyrdd+ gyfle i mi brofi i bawb, ac i fi fy hun, fy mod yn gallu cadw swydd dda. Bellach, rydw i’n gweithio 40 awr yr wythnos ac, am y tro cyntaf erioed, mae gen i arian yn y banc. Rwy’n mwynhau fy ngwaith yn fawr oherwydd ei fod yn waith cyson ac oherwydd bod y cwmni yn credu ynof i ac yn barod i fy hyfforddi i wneud pethau newydd. Dyma’r tro cyntaf erioed i fi deimlo bod gennyf ddyfodol da o fy mlaen.

Ni allaf ddiolch digon i Gweithffyrdd+. Mae’r cymorth ymarferol maen nhw wedi ei roi i mi wedi bod yn ardderchog, ac roedd ariannu’r lleoliad gwaith a roddodd y cyfle i mi brofi i’r cwmni o dan sylw fy mod yn weithiwr abl yn hwb go iawn i fy hyder. Mae Gweithffyrdd+ yn ardderchog a byddem yn argymell y gwasanaeth i bawb.”
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am brosiect Gweithffyrdd+, ffoniwch 01437 776609, anfonwch neges e-bost at workwaysplus@pembrokeshire.gov.uk neu ewch i www.workways.wales.