Gwirfoddolwch i gael dyfodol disglair



Gwirfoddoli Meishlang gyda Rhiannon, Gweithffyrdd

Mae pobl yn gwirfoddoli am resymau amrywiol. Mae rhai yn gwirfoddoli er mwyn datblygu eu hyder, eu sgiliau a'u profiad gwaith ac mae eraill yn gwirfoddoli gan eu bod nhw'n hoffi cwrdd â phobl newydd ac yn croesawu'r cyfle i adeiladu bywyd cymdeithasol gwell. Un peth sydd gan bob gwirfoddolwr yn gyffredin yw'r teimlad hyfryd hwnnw o ganlyniad i helpu eraill.

Mae llawer o'r bobl sydd wedi 'rhoi'n ôl' trwy wirfoddoli gyda Gweithffyrdd+ wedi adrodd gwelliannau sylweddol yn eu bywydau. Mewn nifer o achosion mae treulio amser yn gwirfoddoli wedi helpu pobl i sicrhau cyflogaeth amser llawn mewn swyddi maent eu heisiau. Mae pobl eraill yn hapusach ac yn fwy hyderus.
Mae Gweithffyrdd+ yn cydnabod gwerth gwirfoddoli ac yn chwilio am gyfleoedd i bobl gymryd rhan. Cododd un cyfle i wirfoddoli gyda Gwasanaethau Preswyl Park House, sy'n rhan o'r cynllun Gweithredu dros Blant.

Mae Park House, yn Sandfields, Port Talbot yn darparu seibiannau preswyl byr i blant a phobl ifanc rhwng 8 ac 18 oed sydd ag anableddau.

Aeth Gweithffyrdd+ at Reolwr Park House, Sarah Chilcott, gyda'r cynnig i baentio'r ffensys allanol. Roedd Sarah yn ddiolchgar iawn a derbyniodd y cynnig. Croesawodd grŵp o wirfoddolwyr Gweithffyrdd+ y cyfle hwn a threfnwyd dyddiad ar gyfer dechrau'r haf. Roedd Park House yn hapus iawn gyda'r cynnig hwn. Gan fod gwirfoddolwyr Gweithffyrdd mor awyddus i ddechrau, roeddent wedi cynnig gwneud peth gwaith paentio y tu mewn i'r adeilad. Ystyriodd Sarah hyn a gofynnodd a fyddent yn hapus i baentio ystafell wely, ac roedd y gwirfoddolwyr yn croesawu'r cyfle.
Nid oedd y gwirfoddolwyr yn fodlon ar baentio walyn blaen. Gan ddefnyddio eu holl sgiliau a'u dychymyg, aethant ati i greu thema forwrol gyda lliwiau llachar a lluniau a oedd yn cyfleu glan y môr.

Meddai Sarah Chilcott yn hapus iawn, "Mae'r ystafell wely'n edrych yn wych. Mae hi wedi gwneud cymaint o wahaniaeth yn barod a dywedodd un o'r plant a oedd wedi aros nos Fawrth ei fod ef eisiau aros yn ystafell y môr! Hoffwn ddiolch i'r holl wirfoddolwyr."
Meddai gwirfoddolwr Gweithffyrdd+, Meishlang, "Rydw i'n hapus iawn fy mod i'n gwirfoddoli gyda Gweithffyrdd+, maent wedi fy helpu gymaint ar fy nhaith i ddychwelyd i'r byd gwaith. Mae cefnogi Gweithredu dros Blant yn Park House yn bwysig iawn i mi. Mae fy merch wedi elwa o wasanaeth tebyg ac rydw i'n gwybod faint o blant a phobl ifanc fydd yn elwa ohono."

Meddai Carol Hooper o wasanaeth Gweithffyrdd+, "Mae pobl weithiau'n meddwl nad yw gwirfoddoli yn addas iddynt. Ond, dro ar ôl tro profwyd bod gwirfoddoli yn cynnig buddion sylweddol i'r gwirfoddolwyr. Rydw i wedi gweld pobl unig gyda hunan-barch a hyder isel yn datblygu'n bobl hyderus a hapus gyda dyfodol cadarnhaol trwy dreulio amser yn gwirfoddoli. Mae'n wych am brofiad, i ddatblygu sgiliau ac i gwrdd â phobl. Mae gwirfoddoli yn gam cadarnhaol iawn tuag at wella bywydau pobl ddi-waith a phobl sydd dan anfantais yn economaidd."
I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau Gweithredu dros Blant Cymru, ewch i www.actionforchildren.org.uk

Am fwy o wybodaeth am sut gall Gweithffyrdd+ eich helpu chi, ffoniwch, neu anfonwch neges destun i 07942 986122/e-bostiwch workways@npt.gov.uk neu ewch i www.workways.wales/?lang=cy-gb