Mam yn goresgyn salwch a hyder isel i ddechrau gyrfa newydd

Bu'n rhaid i gyn-weithwyr y sector gofal, Hannah Howells (dde gyda Carol Workways+) roi gorau i'w swydd yn dilyn cyfnod hir o salwch gwanychol. Yn 32 oed, roedd Hannah yn teimlo fel ei bod mewn sefyllfa anodd iawn. Roedd hyder Hannah yn isel iawn ac roedd yn ansicr am yr hyn yr oedd am ei wneud nesaf. Roedd y dyfodol yn ddigalon i Hannah. Er y teimladau negyddol hyn, roedd Hannah yn benderfynol o greu bywyd gwell ar ei chyfer hi a'i phedwar plentyn.

Wrth geisio dod o hyd i ffordd ymlaen, cysylltodd Hannah â Gweithffyrdd+, sef y gwasanaeth sy'n ymroddedig i helpu pobl ddi-waith neu sy'n anweithgar yn economaidd i wneud bywydau gwell i'w hunain drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi, profiad gwaith a chyflogaeth.

Clywodd Hannah am Gweithffyrdd+ drwy argymhelliad gan gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth Gweithffyrdd+ a oedd wedi dweud bod y gwasanaeth yn dda iawn.

Rhoddodd Gweithffyrdd+ fentor i Hannah weithio gyda hi ar sail un i un. Roedd Mark, mentor dynodedig Hannah, wedi'i helpu i ailfagu ei hyder ac wedi'i hannog i gyflawni cyfnod o brofiad gwaith fel cam tuag at gyflogaeth amser llawn. Edrychodd Mark hefyd ar anghenion hyfforddi a chymwysterau Hannah a lluniodd gynllun gweithredu ar gyfer nodi ac ariannu cyrsiau hyfforddi.

Drwy weithio'n agos gyda Swyddog Cyswllt Cyflogaeth Gweithffyrdd+, Carol, dechreuodd Hannah gyfle 'gwaith â thâl' fel Gweithiwr Ieuenctid yng Nghlwb Ieuenctid Canolfan Maerdy, Tai'rgwaith. Gyda'i phrofiad o fagu pedwar o blant, roedd gan Hannah lawer i'w gynnig o fewn y rôl hon ac roedd hi'n mwynhau'r cyfle i wneud rhywbeth yr oedd hi'n frwd drosto.

Meddai Gill, Rheolwr Canolfan Maerdy, "Roedd yn amlwg i mi o'r dechrau bod Hannah yn awyddus i ddysgu a bod yn rhan o arwain y grwpiau yn y ganolfan. Roedd yn braf gwylio Hannah yn datblygu a magu hyder o flaen fy llygaid. Mae'n bleser cael Hannah fel rhan o'r tîm."

Meddai Hannah, "Rwy'n teimlo'n fwy hyderus ac mae'n braf cael bod yng nghwmni oedolion erbyn hyn! Rwy'n cymysgu â gwahanol bobl ac yn dysgu sgiliau newydd. Gyda chefnogaeth Gweithffyrdd+ o ran mentora a chyllideb rwyf wedi cwblhau cwrs Cymorth Cyntaf a Hylendid Bwyd ac rwy'n dechrau Dyfarniad Lefel 2 mewn Gwaith Ieuenctid. Mae'n dda i fy mhlant fy ngweld i'n dychwelyd i'r gwaith am fy mod i am fod yn fodel rôl cadarnhaol. Does dim geiriau i gyfleu pa mor wych yw'r teimlad o gael ennill fy arian fy hun unwaith eto. Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi rhoi llawer o gefnogaeth un i un i mi, yn ogystal â sicrhau bod arian ar gael i fy helpu i gael y profiad a'r cymwysterau y mae eu hangen arnaf ar gyfer y dyfodol. Maent wedi bod yn wych ac rwyf yn argymell Gweithffyrdd+ yn llwyr i unrhyw un sy'n ceisio gwella eu bywydau."

Mae Gweithffyrdd+ yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion.

Ewch i www.workways.wales i weld sut y gall Gweithffyrdd+ eich helpu.