Canol Tref a Dociau

Canol Tref a Dociau Port Talbot

Bydd adfywio ffisegol ac economaidd darnau helaeth o ganol tref Port Talbot a’i dociau dros yr 20 mlynedd nesaf yn gwbl hanfodol i ddenu buddsoddi newydd a gwella amgylchedd ardal y glannau.

Yn allweddol i’r datblygiad fydd cwblhau system ffyrdd newydd a fydd yn rhoi mynediad i dir datblygu a hefyd yn symud traffig lleol oddi ar yr M4.

Mae ystod o ddatblygiadau yn yr arfaeth ar gyfer y dociau, gan gynnwys lle ar gyfer busnesau, swyddfeydd, manwerthu, hamdden a thai.

Artist's Impression of Port Talbot Parkway

Mae prif gynllun yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygu cyffrous gan gynnwys:

Adfywio canol tref Port Talbot yn ffisegol fel canolbwynt cyfleoedd masnachol, preswyl, cymdeithasol a chyflogaeth.

Datblygu safleoedd diwydiannol, twristiaeth a hamdden ar hyd coridor y glannau er mwyn denu buddsoddi, ymwelwyr a chyfleoedd cyflogaeth.

Darparu safleoedd ger y dociau a choridor yr afon ar gyfer datblygiadau tai.

Gwella’r isadeiledd cludiant cyhoeddus er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial ardal glannau Castell-nedd Port Talbot.