Ffordd Ddosbarthu Ymylol

Ffordd Yr Harbwr

Harbour Way

Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i gwblhau llwybr trafnidiaeth pwysig yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael y golau gwyrdd, gan greu cannoedd o gyfleodd cyflogaeth.

Bydd cymeradwyo £107m o arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r UE yn galluogi adeiladu Ffordd yr Harbwr, gan gwblhau'r Ffordd Ddosbarthu Ymylol (FfDdY) yn y sir.

Ffordd yr Harbwr yw'r prosiect trafnidiaeth mwyaf i'w gefnogi gan raglen Gydgyfeirio CDRE yng Nghymru a bydd yn darparu cyswllt 4.8km i'r M4 ar gyffordd 38, i mewn i Bort Talbot a'r dociau, gan weithredu fel cyswllt hanfodol i orllewin Cymru, rhwydwaith traffyrdd y DU, rhwydwaith y cefnffyrdd a thir mawr Ewrop.

Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau a gallwch gael hyd i fwy o wybodaeth a'r diweddaraf am y datblygiadau ar wefan ddynodedig Ffordd yr Harbwr: