Canol Tref Castell-nedd

Adfywio Canol Tref Castell-nedd

Mae’r cynlluniau uchelgeisiol yn cynnwys adfywio sylweddol gwerth £80 miliwn dros 1000 o erwau yng nghanol tref Castell-nedd a’r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys datblygiad siopa ar safle hen ganolfan ddinesig Castell-nedd, adfywio Maes Parcio Heol Milland i Stryd y Bont ac o Afon Nedd i’r brif reilffordd.

Yn dilyn astudiaeth gan yr ymgynghorwyr Knight Frank, cyflwynwyd y cynigion ar gyfer y datblygiad i fusnesau, trigolion a charfannau â diddordeb. Mae barn y grwpiau hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd fel rhan o’r broses ddatblygu.

Mae dymchwel hen Ganolfan Ddinesig Castell-nedd wedi rhyddhau tir ar gyfer y datblygiad siopa newydd sy’n cynnwys canolfan y celfyddydau a threftadaeth flaengar a fydd yn cynnwys amgueddfa a llyfrgell gyhoeddus.

Ynghyd â chynlluniau’r cyngor i ailadeiladu Neuadd Gwyn, bydd y cynllun adfywio pwysig hwn yn dod â budd enfawr i bobl Castell-nedd.

Hyd yn hyn, buddsoddwyd tua £100 miliwn, gan helpu i sicrhau dyfodol Castell-nedd fel lleoliad siopa o bwys.