Adfer y Gamlas

Adfer y GamlasNeath Canal

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Mae camlesi Tawe, Nedd a Thennant yn adnodd treftadaeth a hamdden pwysig lle gellir cael datblygiadau sylweddol.
 
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, buddsoddwyd mwy na £5 miliwn yng nghamlas Nedd i ddileu llygredd ac adfer nodweddion y gamlas a mordwyo ar hyd darn 8km o’r gamlas rhwng Castell-nedd ac Abergarwed.
 
Mae ymarferoldeb mynd rhagddo â gwaith gwella ac adfer pellach yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gyda pherchnogion y gamlas, ymddiriedolaethau camlesi a sefydliadau eraill â diddordeb.
 
Y nod yn y tymor hir yw cysylltu’r tair camlas drwy ddociau Abertawe i greu dyfrffordd fewndirol fordwyol 35km gyda chysylltiad â Môr Hafren.
 
Gellir gweld mwy o wybodaeth am gamlesi ar wefan twristiaeth Castell-nedd Port Talbot: http://www.visitnpt.co.uk/