Dim Mny hwyr I dechrau gyrfa newydd




Pan fo afiechyd yn rhoi terfyn ar eich cyflogaeth ond rydych yn brwydro ymlaen er gwaethaf caledi economaidd a diffyg hunan-barch, rydych chi'n gobeithio y bydd rhywbeth ar ryw bwynt yn mynd yn iawn. Yn achos Angela, digwyddodd hyn pan gafodd ei chyflwyno i wasanaeth Gweithffyrdd+. Mae Gweithffyrdd+ yn wasanaeth a ariennir yn llawn sy'n helpu pobl 25 oed ac yn hŷn sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na 12 mis i ddod o hyd i swydd, cael hyfforddiant, sicrhau profiad gwaith neu gael lleoliad gwirfoddol.

Neilltuodd Gweithffyrdd fentor dynodedig i Angela i weithio'n agos gyda hi i ddatblygu ei sgiliau cyflogaeth a meithrin ei hyder. Roedd cyflwr meddygol yn atal Angela rhag gwneud y gwaith corfforol roedd hi'n arfer ei wneud. Roedd gwaith gweinyddol yn apelio at Angela, er nad oedd ganddi sgiliau na chymwysterau TG. Helpodd Gweithffyrdd+ Angela i gael mynediad at hyfforddiant TG a rhoddodd gefnogaeth barhaus iddi. Mae Angela bellach wedi pasio lefel 2 yn Word, PowerPoint, Publisher ac Excel, ac mae hi hefyd wedi cwblhau cwrs cyfrifon Sage 50, cwrs Iechyd a Diogelwch a phrawf i gael y cerdyn Ardystiad Sgiliau Adeiladu a fydd yn ei galluogi i weithio ar safleoedd adeiladu.

Meddai Angela, "Ym mis Tachwedd 2017 am y tro cyntaf yn fy mywyd, bu'n rhaid i mi wneud cais am gymhorthdal incwm. Roeddwn i'n dioddef o iselder a phryder, yn 49 oed ac yn anghyflogadwy a heb weithio am 17 o flynyddoedd. Des i i wybod am Gweithffyrdd, tîm o bobl sy'n eich helpu i fagu hyder, cael hyfforddiant a chael swydd yn y pen draw. Roedd fy mentor, Angela Law, wedi gwneud i fi deimlo mod i ddim yn ddi-werth a bod gen i ddyfodol. Ces fy ysgogi gan Angela i gofrestru ar gwrs cyfrifiadur ac roeddwn i wedi dwlu arno.  Fel y cam nesaf, cyflwynodd Angela fi i'r gwasanaeth Y Tu Hwnt i Frics a Morter a oedd wedi fy helpu i gael profiad gwaith â thâl gyda Morgan Sindall.  Daeth Angela o hyd i swydd i fi yn Nhai Coastal fel cynorthwy-ydd gwasanaethau cwsmeriaid a helpodd fi i gyflwyno cais a pharatoi ar gyfer y cyfweliad. Rwyf wedi bod yn gweithio i Dai Coastal am ddeufis ac mae fy hyder yn datblygu. Mae'r holl waith caled dwi wedi'i wneud yn y flwyddyn ddiwethaf wedi talu ar ei ganfed o'r diwedd."

“Mae'r modd y mae Angela wedi symud ymlaen yn ei bywyd ynghyd â'i hunanhyder newydd yn anhygoel. Gweithiodd yn galed i chwalu ei rhwystrau ei hun, a derbyniodd yr holl gyngor a roddais iddi.  Cafodd flas ar gyflawni unrhyw dasg a roddais iddi, ac mae wedi bod ar daith hynod mewn cyfnod cymharol fyr.  Mae hi wedi ymgartrefu'n dda yn ei swydd yn Nhai Coastal, ond mae hefyd am barhau â'i hunanddatblygiad, felly mae'n dal i fynd i'r cwrs cyfrifiadur ac mae'n ymdrechu i gael dyrchafiad pan fydd hynny'n bosib".

Angela Law, Mentor Gweithffyrdd

 "Ymunodd Angela â Grŵp Tai Coastal ym mis Gorffennaf eleni. Mae Angela wedi ymgartrefu'n dda iawn yn ei rôl newydd ac mae'n dod yn aelod sefydledig o'r tîm yn gyflym oherwydd ei hagwedd gadarnhaol a'i natur hamddenol."

Kirsty Walton, Tai Coastal