Gweithffyrdd+ yn helpu Raymond i lwyddo



Mae Raymond Ray, 52 oed, mor hapus yn ei swydd newydd mae bellach am annog eraill sydd wedi dioddef anobaith diweithdra yn y tymor hir i ddilyn ei lwybr at lwyddiant. Ar ôl cael ei gyflogi'n achlysurol am 15 mlynedd, cafodd Raymond anhawster wrth geisio dod o hyd i swydd sefydlog, ac yn ei farn ef, achoswyd y broblem hon o ganlyniad i'w anawsterau clywed, bylchau yn ei hanes cyflogaeth, diffyg cymwysterau a'i gyfrifoldebau gofal plant. Roedd hyder Raymond wedi gostwng ond sicrhaodd ei awydd i symud ymlaen nad oedd yn rhoi'r ffidl yn y to.

Cafodd Raymond ei gyfle mawr pan wnaeth y Ganolfan Byd Gwaith a Mwy ei gyfeirio at Gweithffyrdd+, gwasanaeth a grëwyd i helpu pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir i ddod o hyd i gyflogaeth amser llawn. Mae Gweithffyrdd+ ar gael yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Trwy Gweithffyrdd+ gall pobl gael mynediad at amrywiaeth eang o gefnogaeth ymarferol gan gynnwys cyngor gyrfaoedd a datblygu sgiliau. Yn achos Raymond, roedd hyn yn cynnwys cyngor cyflogaeth un i un, help i ddod o hyd i swyddi, datblygu ei CV, mynediad at ddarparwyr hyfforddiant, cyfweliadau ffug a threial gwaith gyda grŵp bwytai cenedlaethol arweiniol.

Helpodd Gweithffyrdd+ Raymond i ennill cymhwyster hylendid bwyd lefel 2 achrediad Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) Safonau Bwyd. Yn hollbwysig, gwnaeth y gwasanaeth ei helpu i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau angenrheidiol i wneud argraff dda ar gyflogwyr.

Meddai Raymond, "Yn fy marn i, mae Gweithffyrdd+ yn wych. Gyda help y gwasanaeth rwyf wedi cyflawni canlyniadau cadarnhaol, ac maent wedi fy helpu i ddod o hyd i gyfleoedd. Mae Sam, fy mentor Gweithffyrdd+, wedi fy helpu i ennill cymwysterau nad wyf wedi gallu eu hennill yn unman arall. Mae fy swydd newydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'm bywyd, yn ogystal â gwella fy hyder a'm hunanwerth. Mae Gweithffyrdd+ wedi rhoi hwb i fy hyder ac wedi gwrando ar fy anghenion a'm dymuniadau, ac nid oeddwn dan unrhyw bwysau i wneud cais am swydd nad oeddwn am ei gwneud." Mae Raymond hefyd o'r farn bod ei swydd newydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ei blant gan ei bod yn hyrwyddo diwylliant gwaith yn y cartref ac yn gosod esiampl
gadarnhaol.

Meddai Jennifer Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, fod dychweliad Raymond i fyd gwaith yn newyddion gwych iddo ef a'i deulu.
"Hoffwn longyfarch Raymond ar ei holl waith caled a'i ddyfalbarhad. Mae Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid mewn busnesau ac yn y sector cyhoeddus i gefnogi pobl fel Raymond i gaffael y sgiliau a'r hyder y mae eu hangen arnynt i ddychwelyd i'r farchnad swyddi. Mae gennyf broblemau clyw hefyd, a dyma reswm arall pam rwyf mor falch bod Gweithffyrdd+ wedi gweithio ar yr holl rwystrau at gyflogaeth."

Meddai Raymond Ray, "Mae cyflogaeth reolaidd yn wych, ac mae'r ffaith nad oes rhaid i fi dderbyn lwfans ceisio gwaith bellach yn chwa o awyr iach. Rwy'n annog eraill i gael cymorth gan Gweithffyrdd+."