Brwdfrydedd dros ofal yn arwain at yrfa newydd

Cymhwysodd Christopher Martin Evans fel trydanwr ym 1991 ond sylweddolodd yn gyflym nad hon oedd ei swydd ddelfrydol. Er gwaethaf llwyddiant yn y busnes, roedd ganddo ysfa gyson i weithio mewn maes roedd yn frwd drosto. Pan gollodd Christopher ei drwydded yrru, daeth ei yrfa fel trydanwr i ben yn sydyn. Arweiniodd ei anallu i deithio, ynghyd â'i ddadrith cynyddol gyda'i swydd, at gyfnod o ddiweithdra a barodd am bum mlynedd. Brwydrodd Christopher yn galed i ddod o hyd i bwrpas yn ei fywyd ond roedd ei hyder wedi derbyn ergyd. Pan oedd yn gofalu am ei rieni, sylweddolodd mai gofalu am bobl oedd y rôl roedd ef am ei chael yn ei fywyd. 
Dywedodd Christopher, "Roeddwn i wedi cyrraedd pwynt isel iawn yn fy mywyd ac nid oeddwn i'n gallu canfod pwrpas. Roeddwn i wedi penderfynu nad oeddwn i am barhau i weithio fel trydanwr. Roeddwn i'n teimlo'n ddiobaith ac yn ddigyfeiriad ac roedd bywyd yn troi'n enbyd. Dechreuodd fy mywyd i newid pan oedd yn rhaid i fi ofalu am fy rhieni. Roedd hyn yn agoriad llygad. Datblygais i frwdfrydedd gwirioneddol dros ofal ac roeddwn i'n gwybod mai dyma'r hyn roeddwn i am ei wneud."
Cysylltodd Christopher â Gweithffyrdd+, sef y gwasanaeth sy'n ymroddedig i helpu pobl ddi-waith i wneud bywyd gwell i'w hunain.

"Cysylltu â Gweithffyrdd+ oedd un o'r penderfyniadau gorau rwyf erioed wedi'u gwneud. Gwnaethant fy helpu i fagu hyder a chwalu fy rhwystrau i ennill cyflogaeth.  Darparodd Gweithffyrdd hyfforddiant penodol i fi ar gyfer y diwydiant gofal, gwnaethant fy helpu i ddatblygu fy CV a chwilio am swyddi a gwnaethant fy annog i fynd am gyfleoedd gwirfoddoli. Gwnaethant fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth, magu hyder a chael y profiad gwaith roedd ei angen arnaf. Gwnaethant hyd yn oed fy nghefnogi i adennill fy nhrwydded yrru."

Mae Christopher bellach wrth ei fodd yn gweithio fel Gweithiwr Cefnogi mewn tŷ Byw â Chymorth lle mae'n gofalu am bedwar defnyddiwr gwasanaeth, sydd i gyd â'u hanghenion unigol eu hunain. Mae ef wrth ei fodd yn cefnogi'r defnyddwyr gwasanaeth, gan roi help iddynt i fagu'r hyder i fyw'r bywyd maent yn ei ddewis. Nod Christopher yw ennill gwybodaeth well am y sector iechyd a gofal.

Dywedodd Christopher hefyd, "Mae Gweithffyrdd yn wasanaeth cefnogol iawn ac mae wedi rhoi'r gallu i fi symud ymlaen. Mae fy mentor Gweithffyrdd, Sam Mears, wedi fy helpu i fagu hyder ac ailadeiladu fy mywyd gyda 'hyfforddiant hyder a hunan-barch'.  Nid yw Gweithffyrdd yn beirniadu pobl a gwnaethant fy annog i ddilyn fy nyheadau gyrfa. Mae ennill cyflogaeth wedi gwella fy hunan-barch. Ar ôl pum mlynedd o ddiweithdra, roeddwn i wedi dechrau teimlo'n ddiwerth ac yn isel. Mae cael swydd wedi gwella fy hyder a'm hiechyd meddwl ac wedi fy helpu i adennill fy mywyd, gan fy helpu i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a chael pwrpas."

Cefnogir Gweithffyrdd+ gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop  drwy Lywodraeth Cymru ac mae ef ar gael ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion. Nod Gweithffyrdd yw helpu pobl ddi-waith i ennill cyflogaeth, rhoi hwb i’w hyder a gwella'u bywydau.
Dywedodd Christopher hefyd, "Byddwn yn argymell Gweithffyrdd i bobl eraill oherwydd eu bod yn gefnogol iawn ac maent bob amser wedi credu yn fy ngallu i gyrraedd fy nodau. Gwnaethant fy nghefnogi ar bob cam."

I siarad â Thîm Gweithffyrdd+ Abertawe, ffoniwch 01792 637112 neu ewch i www.workways.wales