Trwydded yrru wagen fforch godi yn rhoi hwb i Justin



Gyda llawer o broblemau iechyd gan gynnwys arthritis difrifol, roedd ennill swydd amser llawn bob amser yn mynd i fod yn her i Justin Davies-Jones. Yn 14 oed, oherwydd iechyd gwael, gadawodd Justin yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Gyda hunan-barch isel a heb unrhyw brofiad gwaith, ac yn 26 oed, roedd Justin yn ysu i reoli ei fywyd.

Dechreuodd taith Justin i fywyd gwell pan gyfeiriodd ei Ganolfan Waith ef i wasanaeth Gweithffyrdd+, sef y gwasanaeth sy'n ymroddedig i helpu pobl ddi-waith i wneud bywydau gwell i'w hunain.

Darparodd Gweithffyrdd+ gefnogaeth a ariannwyd yn llawn i Justin, gan glustnodi Sam Mears iddo fel mentor Gweithffyrdd+ profiadol i weithio gydag ef ar sail un i un.
Helpodd Sam Justin i sylweddoli bod gweithio fel gyrrwr wagen fforch godi yn rhywbeth y gallai ei wneud ac, yn hollbwysig, y byddai'n mwynhau ei wneud. Gyda'r prif nod o gyflawni hyn, ymchwiliodd Sam a daeth o hyd i gwrs hyfforddiant ar gyfer gweithredu wagen fforch godi. Talodd Gweithffyrdd+ am yr holl hyfforddiant, y prawf gyrru a'r drwydded yrru. Roedd Justin wrth ei fodd a manteisiodd ef yn llawn ar y cyfle hwn a phasiodd y profion yn fuan i gymhwyso fel Gweithredwr Wagen Fforch Godi.

Y cam nesaf oedd i Sam helpu Justin wrth iddo chwilio am swydd, datblygu sgiliau cyfweliad ac, yn bwysicaf oll, hybu ei hyder. Gyda chefnogaeth barhaus gan Gweithffyrdd+, llwyddodd Justin i ennill ei swydd gyntaf erioed fel gyrrwr wagen fforch godi i gwmni lleol ac roedd wrth ei fodd.

Dywedodd Justin, "Cefais fy ngeni gyda'm calon ar ochr anghywir fy nghorff; mae gennyf arthritis difrifol yn fy nghyhyrau ac mae gennyf fag ileostomi. Roedd fy mhroblemau iechyd yn fy rhwystro rhag cael swydd. Roedd bywyd yn anobeithiol ac roedd gwir angen help arnaf. Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn wych a rhoddodd fy mentor Sam hwb mawr i'm hyder ynghyd â'r holl gefnogaeth roedd ei angen arnaf i gael trwydded yrru wagen fforch godi. Yna rhoddodd Sam gymorth i mi ddod o hyd i swydd amser llawn fel gyrrwr wagen fforch godi. Ond yn bennaf oll, gwnaeth Sam fy helpu i weld heibio fy anableddau i gyrraedd fy nodau."

Mae Gweithffyrdd+ yn ymdrin â'r rhwystrau sy'n atal unigolion rhag ennill cyflogaeth. Mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth gyda chwilio am swydd, CVs, ffurflenni cais, sgiliau cyfweliad a mynediad at hyfforddiant. Mae cyfranogwyr hefyd yn cael eu cydweddu â busnesau lleol, gan eu helpu i gael y profiad angenrheidiol i gael swydd tymor hir. Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Dywedodd Justin hefyd, "Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn ardderchog. Gwnaethant i mi gredu yn fy hun ac ennill fy nghymhwyster a'm swydd gyntaf erioed. Drwy waith, mae fy mywyd wedi ehangu. Mae gennyf ffrindiau erbyn hyn ac mae fy hyder yn uwch nag erioed o'r blaen. Mae'n bleser gennyf dderbyn cyflog rheolaidd, rwyf wedi prynu car ac mae sefydlogrwydd ariannol gennyf a'm partner erbyn hyn. Byddwn i'n argymell Gweithffyrdd+ yn llwyr i unrhyw un sydd am ennill cyflogaeth, ni waeth pa rwystrau maent yn eu hwynebu."

I gael cefnogaeth gan Gweithffyrdd+, ffoniwch 07943 986122