Drysau'n agor i Mark
Mae Gweithffyrdd+ yn parhau i lwyddo i gefnogi pobl i fynd i'r afael â rhwystrau cymhleth sy'n eu hatal rhag dod o hyd i waith. Un o lwyddiannau’r prosiect yw Mark, dyn 41 oed o Gastell-nedd Port Talbot.
Cafodd Mark ei gyfeirio i Gweithffyrdd+ gan y Ganolfan Byd Gwaith ym mis Mai 2017 am ei fod wedi bod yn ddi-waith am dros 10 mlynedd. Roedd Mark eisoes wedi gwneud cynnydd da gan gwblhau nifer o gyrsiau ond roedd yn cael trafferth wrth gymryd y cam nesaf a sicrhau swydd am nifer o resymau megis diffyg cludiant, diffyg hyder, diffyg ymddiriedaeth ac ymrwymiadau teuluol.
Roedd Anthony, mentor Mark, wedi'i gefnogi o'r dechrau gan nodi iddo'n glir ei anghenion unigol, gwella ei hunan-barch a'i hyder a’i lywio i’r cyfeiriad cywir i gyflawni ei nod o ddod o hyd i waith ym maes peirianneg. Pan oedd Mark yn barod, cafodd ei gyflwyno i Lesley, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Gweithfyrdd+, sydd wedi gweithio gydag ef i ddod o hyd i weithle posib.
Sicrhaodd Lesley brawf gwaith deuddydd i Mark gyda Rhino Doors, cwmni ym Mhort Talbot sy'n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a gosod drysau llithro, plygu a rhai â cholfach ar yr ochr sydd wedi’u graddio ar eu perfformiad. Gwnaeth Mark argraff dda iawn ar Rhino Doors yn y deuddydd a dreuliodd yno, ac yn dilyn hynny, cynigiwyd gwaith â thâl iddo am gyfnod o 3 mis a ariannwyd gan Gweithffyrdd+. Yn ystod y cyfnod hwnnw, diolch i Gweithffyrdd+, datblygodd Mark ei sgiliau ymhellach gan gwblhau hyfforddiant wagen fforch godi gwrth-wrthbwysedd.
Meddai Mike Winchcombe o Rhino Doors, "Mae Mark wedi ymgartrefu’n dda ac mae’n barod i wynebu her. Rwy'n siŵr bod dyfodol disglair gan Mark.” Creodd Mark gymaint o argraff ar Rhino Doors oherwydd ei ymrwymiad i’w waith a'i sgiliau datrys problemau, cynigiwyd swydd iddo ar 1 Mawrth eleni. Roedd Mark wrth ei fodd a derbyniodd y swydd ar unwaith. Meddai Mark, "Mae pethau'n mynd yn dda yn fy ngwaith ac rwy'n hapus ond y peth pwysicaf i mi yw fy mod i’n teimlo bod gan fy nghyflogwr ffydd ynof ac mae hyn wedi rhoi hyder i mi a’m hysgogi i barhau i wella fy ngwybodaeth a’m profiad.”
Meddai Anthony,"Ein nod yw cynorthwyo unigolion i fynd i'r afael â rhwystrau cymhleth a'u helpu i ddychwelyd i gyflogaeth ystyrlon. Yn sicr mae ein nod wedi'i gyflawni yn achos Mark; mae wedi bod yn fraint gweithio gydag ef ac mae ei lwyddiant yn un ysgubol. Dwi'n dweud wrth bobl mai Gweithffyrdd+ yw'r cerbyd a nhw yw'r gyrrwr.”
Nid yw stori Mark ar ben, mae ei hyder yn parhau i dyfu, mae wedi dechrau cymdeithasu gyda'i gydweithwyr ac wedi dechrau ymddiried mewn pobl. Mae'r pethau hyn wedi cyfrannu at ei drawsnewidiad anhygoel, o fod yn berson anhyderus a thawel i fod yn unigolion hyderus, gweithgar a diwyd sy’n edrych ymlaen at y dyfodol. Meddai Mark, "Mae wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl gyda chymorth ar bob cam gan holl dîm Gweithffyrdd+. Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy'n cael trafferth wrth ddod o hyd i leoliad gwaith neu gyflogaeth. Bellach, rwy'n hapus yn y gwaith ac o'r diwedd mae gobaith am y dyfodol gennyf, yn ogystal â phethau pob dydd megis fy nghar fy hun a chartref â garej lle gallaf weithio ar fy mhrosiectau fy hun.”
Meddai'r Cyng. Charlotte Galsworthy, "Mae stori Mark yn ysbrydoledig ac yn dangos nad oes unrhyw rwystr na ellir ei oroesi gyda'r gefnogaeth gywir. Rwy'n clodfori tîm Gweithffyrdd+ am ei holl waith caled ac rwy'n annog unrhyw un sydd yn yr un sefyllfa i gysylltu â Gweithffyrdd+ am gymorth.”
Mae cyllid yr UE yn cael effaith gadarnhaol ar bobl, busnesau a chymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro gan wella sgiliau a helpu pobl i ddod o hyd i waith. Cefnogir y prosiect gan grant gwerth oddeutu £17 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Os yw'r stori hon yn taro deuddeg i chi neu rywun rydych yn ei adnabod, cysylltwch â Gweithffyrdd+.
I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch Gweithffyrdd+ ar (01639) 684251 neu e-bostiwch workways@npt.gov.uk