Janine yn cyfnewid prysurdeb Llundain am fywyd tawel

Daeth Janine Crooks, 56 o Arberth o hyd i’w swydd perffaith diolch i brosiect Gweithffyrdd+ a ariennir gan yr UE.

Fe wnaeth Janine, sydd o Lundain yn wreiddiol, gofrestru gyda phrosiect Gweithffyrdd+ ar ôl symud i Sir Benfro flwyddyn yn ôl.

Cyn hynny bu’n gweithio fel Gwas Sifil yng nghanol Llundain am dros 30 mlynedd, tan iddi benderfynu gadael y Ddinas Fawr er mwyn byw bywyd mwy tawel yng nghefn gwlad Cymru. Ar ôl iddi setlo yn ei chartref newydd, roedd Janine, eisiau mynd yn ôl i weithio gan nad oedd hi’n barod i ymddeol eto, ond gan nad oedd hi’n adnabod neb nac yn gwybod ble i ddechrau chwilio am waith aeth at Gyrfa Cymru a’i cyfeiriodd hi at Gweithffyrdd+. Dechreuodd Janine weithio gyda Louise, Cydlynydd Gwirfoddoli a Rebecca, mentor Gweithffyrdd+, gan gydweithio i wella hyder a sgiliau cyflogadwyedd Janine, a chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli addas.

Daethant o hyd i gyfle gwirfoddol yng Nghastell Picton hardd yng nghanol Sir Benfro. Roedd y lleoliad yn berffaith, ac yn wrthgyferbyniad llwyr i’r bywyd prysur y bu’n ei fyw yn Llundain. Dechreuodd Janine wirfoddoli yn y Castell ac ar ôl 2 fis daeth swydd ar gael, a chynigiwyd y swydd iddi.

Dywedodd Janine, “Roedd symud i le newydd, lle nad oeddwn yn adnabod unrhyw un, yn frawychus. Unwaith yr oeddwn i wedi setlo yn fy nghartref newydd roedd yn rhaid i mi chwilio am waith. Doeddwn i erioed wedi bod heb waith felly doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Fe’m cyfeiriwyd at Gweithffyrdd+ ac roeddwn yn teimlo ‘mod i’n cael fy nghefnogi’n syth. Daethon nhw o hyd i leoliad gwirfoddol a drodd yn swydd yn y Castell, ac rwyf wrth fy modd yno. Roedd gweithio mewn lle mor hardd yn freuddwyd gen i, a fedrwn i ddim bod mwy hapus.”

Ers mis Ionawr 2017 mae Janine wedi cwblhau 200 awr o wirfoddoli gyda gwahanol sefydliadau gan gynnwys Castell Picton. Dywed Louise Wilkinson, Cydlynydd Datblygu Gwirfoddoli, “Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddysgu rhywbeth newydd, neu i ymarfer eich sgiliau presennol, a gall fod yn gymorth mawr wrth i bobl gymryd cam positif tuag at waith am dâl. Rwy’n falch iawn bod y Castell wedi sylwi ar botensial Janine ac yn gallu cynnig swydd iddi.”

Mae Gweithffyrdd+ yn darparu cymorth i bobl oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith. Rhoddir help i’r cyfranogwyr, sy’n dewis cymryd rhan yn y prosiect, gyda cheisiadau am swyddi, CVs, technegau cyfweld, datblygiad personol a mynediad i hyfforddiant.

Wedi’i arwain gan Gyngor Castell Nedd Port Talbot mewn cydweithrediad â Chynghorau Sir Penfro, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, caiff prosiect Gweithffyrdd+ ei gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Dymunodd y Cynghorydd Paul Miller, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant, ddymuniadau gorau i Janine yn ei swyddogaeth newydd ac meddai: “Rwy’n falch bod cydweithio rhwng Gweithffyrdd+ a PAVS yn llwyddiannus wrth greu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n rhoi cyfle i bobl ddefnyddio eu sgiliau presennol, dysgu rhai newydd, a gwella eu gobeithion o gyflogaeth.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch prosiect Gweithffyrdd+, ffoniwch 01437 776609, e-bostiwch workways+@pembrokeshire.gov.uk neu ewch i www.workways.wales