Llanelli man carves out his future in finance

Roedd John King o Lanelli, 32 oed, yn saer coed hunangyflogedig am nifer o flynyddoedd. Yn 2013, penderfynodd fynd i edrych am waith oherwydd bod y straen o fod yn hunangyflogedig fel contractwr annibynnol yn rhy anodd.

Yn 2013 cafodd John ei gyfeirio at brosiect Gweithffyrdd y De-orllewin gan Ganolfan Byd Gwaith Llanelli. Roedd yn awyddus i roi cynnig ar unrhyw beth ac yn barod i wrando ar awgrymiadau. Bu'n gweithio'n agos gyda'i fentor, Jake, a chynigiwyd ei enw er mwyn ennill ei gerdyn CSCS, a fyddai'n arwain at lawer o gyfleoedd adeiladu. Yn fuan iawn daeth ei fentor, Jake, o hyd i swydd wag gyda Green Deal Energy Assessors yn Abertawe, a chafodd John swydd dros dro a mynediad i hyfforddiant i fod yn aseswr ynni cymwysedig. Ar ddiwedd y swydd dros dro, cynigiwyd swydd amser llawn i John, lle bu'n gweithio am 4 blynedd tan i'r cwmni ddod i ben.

Gyda'r posibilrwydd o orfod dod o hyd i swydd newydd unwaith eto, penderfynodd John, a'i hen ffrind o'r ysgol, Ryan Stanton, a oedd yn gweithio gydag ef yn Green Deal, sefydlu eu cwmni hawlio eu hunain. Ar ddechrau 2017, agorodd John a Ryan eu siop eu hunain yng nghanol tref Llanelli, o'r enw Cymru Claims. Eu nod yw newid canfyddiad pobl o gwmnïau hawlio; mae'r siop yn rhywle gall pobl alw heibio am wiriad Yswiriant Gwarchod Taliadau heb rwymedigaeth.

Bellach ar agor am 6 mis, mae'r bechgyn wedi helpu llawer o gwsmeriaid i adennill miloedd o bunnoedd i gleientiaid o nifer o fanciau'r stryd fawr.

Meddai John King, "Roeddwn i'n hynod ddiolchgar i raglen Gweithffyrdd am fy nghefnogi i, ar ôl bod yn hunangyflogedig am flynyddoedd nid oeddwn i'n gwybod lle i fynd am help. Anogodd fi i fagu hyder unwaith eto, a fy helpu wrth ddod o hyd i waith ac mae'n dal i gysylltu â fi ynghylch fy nhaith. Rwy'n hapus iawn nawr, agorom y siop yn gynharach eleni ac rydym wedi mynd o nerth i nerth. Rydw i a Ryan yn cael cymaint o foddhad swydd drwy helpu pobl i adennill yr hyn sy'n ddyledus iddyn nhw. Diolch Gweithffyrdd."

Meddai'r Cyng. Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr a'r Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Economaidd, "Rwy'n falch iawn bod Gweithffyrdd wedi gallu cefnogi John pan benderfynodd ei fod am symud o fod yn hunangyflogedig i gyflogaeth.

"Llwyddodd i fagu hyder unwaith eto, ennill cymwysterau a chael swydd amser llawn a, nawr, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae wedi sefydlu busnes gyda ffrind. Mae John yn stori lwyddiant go iawn ac mae'n wych ei fod yn gwerthfawrogi cyfraniad Gweithffyrdd i'r hyn y mae wedi'i gyflawni."

Cefnogir Gweithffyrdd+ gan grant gwerth oddeutu £7.5 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Ceredigion.