Cyn-filwr yn dychwelyd i gyflogaeth o ganlyniad i brosiect Gweithffyrdd+

Bu Peter, a dreuliodd 10 mlynedd yn gwasanaethu Lluoedd Arfog yr Almaen, yn gweithio dros bedwar ban byd cyn iddo a’i deulu symud i Wersyll Merrion, Sir Benfro. Gadawodd y fyddin yn 1997 er mwyn cychwyn cwrs prifysgol (HND) yn astudio Adnoddau Egni ac Egni Adnewyddadwy. Wedi cwblhau’r cwrs gobeithiodd barhau a’i addysg ac ennill gradd, ond yn hytrach bu rhaid iddo ddechrau gweithio fel gyrrwr loriau o ganlyniad i bwysau ariannol. Yn dilyn profedigaeth yn 2001, Peter oedd unig riant dau o fechgyn ifanc.

Roedd hyn yn her newydd iddo, a phenderfynodd ohirio ei gynlluniau er mwyn canolbwyntio ar fagu ei blant ifanc. Roedd yn gyfnod anodd, heb unrhyw incwm teuluol, a dechreuodd iechyd Peter ddirywio yn 2010 o ganlyniad i anaf gwanychol i’w ben-glin a’i gefn.

Wedi 13 mlynedd ddi-waith, roedd Peter yn awyddus i ddychwelyd i gyflogaeth, ond methodd â chanfod unrhyw beth, roedd ei anafiadau’n cyfyngu ar y mathau o waith y gallai gyflawni. Yn 2016 cafodd ei gyfeirio tuag at gynllun Gweithffyrdd+ gan y Ganolfan Waith. Penodwyd mentor iddo, i ailadeiladu ei hyder a helpu iddo ysgrifennu CV newydd. Noddwyd ef hefyd i ennill ei gerdyn CSCS, yn ogystal â NVQ lefel 1 Iechyd a Diogelych mewn Gweithle Adeiladu a CCSNG.

Ym mis Mai 2017, mynychodd Ffair Swyddi Gweithffyrdd+ lle cafodd gwrdd â chwmnïau darparwyr hyfforddiant lleol. Cyflwynodd ei CV i Valero Energy Ltd., gan ofyn pe cai dderbyn profiad gwaith ganddynt yn eu purfa ym Mhenfro. Gwnaeth argraff ar Valero, gan arwain atynt yn cyd-weithio â Gweithffyrdd+ i drefnu profiad gwaith.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, gweithiodd Peter yn arbennig o galed, gan arddangos mentergarwch a pharodrwydd i ddysgu. Cyn hir daeth swydd lawn-amser ar gael, a chynigwyd hi i Peter yn syth.

Dywedodd Nicky Howells, Rheolwr Addysg a Datblygiad Valero: “Pan ddaeth Peter atom yn y Ffair Swyddi, roedd hi’n hawdd i ni weld ei frwdfrydedd a’i ymroddiad- ac yn seiliedig ar hynny roeddem yn falch o gael cydweithio â Gweithffyrdd er mwyn trefnu profiad gwaith tair wythnos ar ei gyfer. Bu’n weithiwr gwerthfawr, ac yn gwmni da. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth safle ar gael yn y storfeydd, ac fe gynigom iddo ddod i weithio atom yn llawn amser.

Dywedodd Peter: “Ni allaf ddiolch ddigon i Gweithffyrdd+, roeddwn i mor awyddus i weithio ond wyddwn i ddim ble i ofyn cyngor. Rwy’n weithiwr caled, ac roeddwn ar bigau’r drain i ddychwelyd i gyflogaeth er mwyn gallu cynnal fy nheulu. Helpodd Jackie, fy mentor Gweithffyrdd+, i mi adennill fy hyder a gwneud i mi gredu yn fy ngallu fy hun unwaith eto. Pan wnes i gwrdd â Valero yn y ffair swyddi, roeddwn eisiau cyfle i arddangos fy sgiliau. Ers i mi dderbyn cyflogaeth ac incwm sefydlog, mae fy mywyd wedi newid er gwell. Bu’n gyfnod anodd iawn, ond mae fy meibion bellach yn ddynion ifanc anhygoel, rwy’n falch ofnadwy ohonynt a’n edrych ymlaen tua’r dyfodol.”

Dywedodd Jackie Gilderdale, mentor Gweithffyrdd+: “Gall Peter ein hysbrydoli ni i gyd, mae ei frwdfrydedd a’i ymroddiad yn heintus! Rwyf mor falch ei fod wedi dod atom, a’n bod ni wedi llwyddo ei helpu. Yr unig beth yr oedd ei angen oedd cyfle i ddangos fod ganddo’r gallu i weithio. Roedd Valero’n anhygoel, gan weld ynddo'r un peth a welsom ni. Rydym ni’n falch iawn, a’n dymuno’r gorau iddo a’i feibion.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cyngor Sir dros yr Economi, y cyngh. Paul Miller: “Llongyfarchiadau i Peter a Gweithffyrdd+. Mae’n stori i gynhesu’r galon, gan roi gobaith i’r sawl sy’n parhau i chwilio am waith.”

Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot mewn cydweithrediad â chynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Cheredigion. Amcan y prosiect, sy’n derbyn £7.4 million o nawdd y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru, yw ceisio dymchwel y rhwystrau sy’n atal unigolion rhag canfod gwaith.