Natasha has it all figured out thanks to Workways+

Roedd Natasha Davies, 42, wedi bod yn gweithio am 10 mlynedd gyda'r 5ed Bataliwn, y Reifflwyr, yn yr Almaen. Yn 2015, roedd Natasha a'i theulu wedi penderfynu dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu mewn pentref bach yn Llanelli. Nid oedd Natasha yn gallu gweithio oherwydd ei bod hi'n magu teulu ifanc ac yn sicrhau eu bod nhw'n ymgartrefu yn eu bywydau newydd.

Ar ôl i flwyddyn heb ennill incwm ac yn byw ar ei chynilon, roedd Natasha yn awyddus i fynd yn ôl i'r gwaith ond nid oedd ganddi hi'r cymwysterau i wneud y gwaith mewn cyfrifon yr oedd hi'n ei fwynhau. Er bod gan Natasha brofiad helaeth, roedd y swyddi yr oedd hi'n awyddus i ymgeisio amdanynt yn gofyn am gymwysterau SAGE. Ar ôl iddi weld poster ar gyfer Gweithffyrdd+, aeth Natasha i'r Hwb yn Llanelli lle mae Gweithffyrdd+ yn cynnal sesiynau allgymorth. Neilltuwyd mentor i Natasha mentor a weithiodd yn agos gyda hi i lunio CV, magu ei hyder a chwilio am swyddi gwag.

Daeth Gweithffyrdd+ o hyd i swydd gweinyddu a chyfrifon gyda Broadleaf Timber LTD, un o arbenigwyr pren go iawn Sir Gâr. Gyda chymorth Gweithffyrdd+, ymgeisiodd Natasha am y swydd a chyrhaeddodd y rhestr fer am gyfweliad. Roedd ei mentor yn awyddus i weithio gyda hi ar ei sgiliau cyfweliad a threfnodd gyfweliadau ffug cyn i ddyddiad y cyfweliad. Llwyddodd Natasha i gael y swydd ac mae eisoes wedi bod mewn cyflogaeth gyda'r cwmni am 6 mis.

Meddai Natasha, "Oherwydd fy mod i'n newydd i'r ardal hon, doeddwn i ddim yn gwybod lle i edrych am waith. Clywais i am Gweithfyrdd+ ac es i i'r Hwb yn Llanelli. Gwnaeth fy mentor fy helpu gyda'r CV a thrwy roi cymorth i mi gyda cheisiadau swydd a'm paratoi ar gyfer cyfweliadau swydd ac yna daeth o hyd i'r swydd berffaith i mi.

"Rwyf wedi ymgartrefu'n dada iawn yn Broadleaf Timber LTD; mae'r holl staff yn gyfeillgar ac yn gwneud i mi deimlo fel rhan o'r tîm. Rwyf eisoes wedi bod yn gweithio yma am 6 mis ac rwyf wrth fy modd. Mae fy mhlant wedi ymgartrefu'n dda ac rwy'n gallu trefnu gwaith fel bod i fi fynd â'r plant i'r ysgol.

Meddai Emma Rees, Broadleaf Timber LTD, "Roedd Broadleaf wedi gweithio'n flaenorol gyda Gweithffyrdd+ ac roeddem yn hapus i ystyried Natasha pan gafodd ei chynnig ganddynt fel ymgeisydd posib ar gyfer y swydd wleidyddol yr oeddwn yn recriwtio amdani. Er bod ei rôl hi yn swyddfa'r fyddin yn wahanol iawn i'r un y mae hi'n ei gwneud yma, roedden ni'n meddwl bod ganddi hi'r sgiliau trosglwyddadwy ac y byddai hi'n ymgartrefu'n dda yn ein tîm swyddfa prysur.

Meddai'r Cyng. Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gâr a Phrif Arweinydd dros Ddatblygiad Economaidd, "Mae creu swyddi a chefnogi pobl i ymgymryd â chyflogaeth yn un o brif flaenoriaethau'r cyngor.

"Mae llwyddiannau fel hyn gyda Gweithffyrdd+ yn dangos bod y gefnogaeth yr ydym yn eu darparu yn effeithiol ar gyfer busnesau ac unigolion.

"Rydym yn dymuno'r gorau i Natasha yn ei rôl newydd ac rydym yn gobeithio ei bod hi wedi dechrau gyrfa hir a hapus."

Cefnogwyd Gweithffyrdd+ gan £7.5 miliwn o arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion.