Gerald yn tynnu dŵr o'r dannedd yn ei rôl newydd

Trwy gymorth prosiect Gweithffyrdd+ a ariennir gan yr UE, mae Gerald Maddox, 39 oed, yn tynnu dŵr o'r dannedd yn The Lost Coins yn Hwlffordd.

Roedd Gerald, o Hwlffordd, wedi treulio blynyddoedd lawer yn y lluoedd arfog ond ers gadael yn 2008, roedd yn cael anhawster yn dod o hyd i gyflogaeth barhaol. Ym mis Awst 2016, cafodd Gerald ei gyfeirio gan y Ganolfan Byd Gwaith i Weithffyrdd+ ar ôl bod yn ddi-waith am 3 blynedd.

Ar ôl cwrdd â Jackie, un o fentoriaid Gweithffyrdd+, dechreuodd ymgais Gerald i ddod o hyd i swydd symud mlaen yn gyflymach. Buont yn gweithio gyda'i gilydd yn adeiladu ei hyder, yn diweddaru ei CV ac yn chwilio am gyfleoedd swyddi lleol. Roedd Gerald yn awyddus i ystyried yr holl gyfleoedd a phenderfynodd ehangu ei ystod sgiliau trwy ennill ei gerdyn CSCS ac NVQ Iechyd a Diogelwch yn y Sector Adeiladu.

Parhaodd Gerald a Jackie i chwilio am swyddi gwag ar draws amrywiaeth eang o sectorau pan ddaeth swydd cynorthwy-ydd cegin yn wag yn The Lost Coins yn Hwlffordd. Siaradodd Jackie a rheolwr The Lost Coins, Anna Miller, a gwnaethant drafod swydd wag addas. Gwahoddwyd Gerald i ddiwrnod agored y diwrnod wedyn lle cafodd gyfweliad am swydd wag cynorthwy-ydd cegin. Cafwyd newyddion gwych yn sgîl hyn: gwahoddwyd Gerald am ail gyfweliad a rhoddwyd y swydd iddo.

Meddai Jackie Gilderdale, mentor gyda Gweithffyrdd+, ‘Mae egni a brwdfrydedd Gerald yn heintus, a chydag ychydig o arweiniad a chefnogaeth roeddem yn gallu ystyried yr amrywiaeth eang o gyfleoedd a oedd ar gael iddo. Rwyf wrth fy modd ei fod yn gweithio nawr. ‘

Meddai Gerald, ‘Rwyf wedi bod heb swydd barhaol ers symud i Sir Benfro 5 mlynedd yn ôl, ond ers cael cefnogaeth gan Gweithffyrdd+ ym mis Awst y llynedd, mae pethau wedi gwella'n fawr i mi. Y peth gorau i mi oedd y gefnogaeth fentora mae Jackie wedi'i darparu. Rwyf wedi cael yr holl gefnogaeth yr oedd ei hangen arnaf. Rwy'n llawer mwy hapus a hyderus nawr fy mod yn ôl yn y gwaith.’

Meddai Anna Miller, rheolwr The Lost Coins, ‘Mae Gerald wedi datblygu'n fawr. Mae cyfnod prysur yr haf wedi dechrau ac mae'r pwysau gwaith yn y gegin yn cynyddu'n aruthrol – mae Gerald wedi ymdopi'n hynod dda. Gallwn weini hyd at 5,000 o bobl yr wythnos, weithiau 1000 o bobl y dydd dros yr haf, felly mae'r gallu i weithio i safonau uchel mewn modd effeithiol ac effeithlon yn hynod bwysig ac mae hyn yn cydweddu â chryfderau Gerald.’

Aeth Cynghorydd Sir Benfro Paul Miller, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant, ati i longyfarch Gerald ar ei gyflawniadau. 

“Mae’n hyfryd clywed stori mor galonogol â’r un hon,” meddai. “Nid oes unrhyw reswm i unrhyw un feddwl oherwydd ei fod wedi bod yn ddi-waith yn y gorffennol a’r presennol fod rhaid iddo fod yn ddi-waith yn y dyfodol hefyd.” 

 

Cefnogir Gweithffyrdd+ gan werth £7.5 miliwn o arian yr UE trwy Lywodraeth Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion.

I gael gwybod mwy am Gweithffyrdd+, ffoniwch 01639 684250 neu ewch i www.workways.co.uk