David yn mentro iddi yn ei rôl newydd

Roedd David Cooper, sy'n 46 oed o Bort Talbot, yn arfer gweithio fel gwas sifil tan y bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith er mwyn gofalu am ei rhieni oedrannus. Bu David yn gofalu am ei rieni am 15 mlynedd a phan ddaeth yr amser iddo ddychwelyd i'r gwaith, nid oedd yn siŵr ymhle i gychwyn. Roedd wedi colli hyder dros y blynyddoedd, ac roedd technoleg wedi datblygu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae David yn dioddef o Spina Bifida Occulta ac arthritis yn ei asgwrn cefn a'i goesau sy'n cyfyngu ar y mathau o swyddi y mae'n gallu eu gwneud.

Cysylltodd David â Gweithffyrdd+ ym mis Awst 2016 wedi gweld stori newyddion ar y rhyngrwyd a oedd yn hyrwyddo'r prosiect. Trefnwyd mentor i David a oedd yn gwrando arno ac yn cymryd yr amser i ddeall y ffactorau a oedd yn ei atal rhag dod o hyd i swydd. Trefnodd y mentor leoedd ar gyrsiau i David, gan ei helpu i ailfagu rhai o'r sgiliau a'r hyder yr oedd yn teimlo y collwyd ganddo dros y blynyddoedd. Roedd un o'r cyrsiau hyn yn gwrs gweinyddiaeth achrededig, gan roi rhywbeth diweddar i David nodi ar ei CV. Cafodd help hefyd gan ei fentor i drefnu lleoliad profiad gwaith, gan roi'r cyfle i David ymarfer rhai o'r sgiliau y roedd wedi'u dysgu ar y cwrs gweinyddiaeth a chan roi blas ar fod yn ôl yn y gwaith iddo.

Ar ddiwedd y lleoliad profiad gwaith, roedd David yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau ymhellach wrth hefyd gadw'r drefn newydd y sefydlwyd ganddo. Trafododd gyfleoedd gwirfoddoli gyda'i fentor, yn ogystal â'r opsiynau a oedd ar gael iddo a fyddai'n ei helpu i wella a diweddaru ei sgiliau. Wedi ystyried ambell opsiwn, dechreuodd David wirfoddoli gyda The Bulldogs, sef elusen sy'n cynnal gweithgareddau yn y gymuned sy'n canolbwyntio ar baffio fel chwaraeon. Mae David bellach wedi bod yn gwirfoddoli ers pedair wythnos ac mae'n mwynhau'r profiad.

Meddai David, "Mae'n fy helpu i fagu hyder ac mae'n rhoi'r cyfle i fi gwrdd â phobl. Dwi'n credu y bydd gwneud hyn yn fy helpu i gael digon o hyder i ymgeisio am swyddi yn y dyfodol. Mae'r staff yma yn The Bulldogs wedi rhoi croeso cynnes i fi wrth ymuno â'r tîm, a dwi'n mwynhau bod yn ôl mewn amgylchedd swyddfa a dwi'n mwynhau'r gwaith a dysgu sgiliau TG newydd."

Mae David yn parhau i weithio gyda'i fentor yn Gweithffyrdd+, gyda'r nod tymor hwy o symud i gyflogaeth a thâl.

Meddai'r Cynghorydd Rob G. Jones, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Rydw i wrth fy modd unwaith eto i weld llwyddiant parhaol Gweithfeydd+, a hoffwn longyfarch David ar ei ymroddiad a'i ymrwymiad wrth gymryd cam arall tuag at lwyddo yn ei nod o gael cyflogaeth amser llawn."

Cefnogwyd Gweithffyrdd+ gan £7.5 miliwn o arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion.