Menter fusnes newydd yn fêl i gyd
Roedd Sabrina Baker, 38 oed o Abertawe, wedi gweithio yn y diwydiant manwerthu am sawl blwyddyn ers gadael yr ysgol. Rhoddodd Sabrina'r gorau i'w swydd i gael dau blentyn a gofalu am ei theulu, ond pan aeth y plant i'r ysgol llawn amser, penderfynodd Sabrina fod angen iddi ddechrau gweithio eto, ond heb wybod ble i ddechrau.
Ym mis Medi 2016, aeth Sabrina i Lyfrgell Fforestfach i chwilio am sesiynau ceisio swyddi. Awgrymodd staff y llyfrgell y dylai hi siarad â Gweithffyrdd+. Bu Sabrina'n cwrdd â Lisa, mentor lleol Gweithffyrdd+ a gwnaethant drafod yr opsiynau oedd ar gael iddi yn seiliedig ar ei phrofiad blaenorol.
Ar ôl ystyried manwerthu fel dewis cyntaf i ddechrau, nid oedd trefnu bywyd teuluol ac oriau gwaith o amgylch y plant yn mynd i weithio. Gallai Lisa deimlo nad oedd calon Sabrina yn y maes manwerthu a gwnaethant drafod opsiynau eraill. Gofynnodd Lisa "Beth fyddai dy swydd ddelfrydol?" ac atebodd Sabrina y byddai sefydlu ei busnes teisennau ei hun yn freuddwyd. Bu Lisa'n cefnogi Sabrina drwy gysylltu ag asiantaethau eraill i helpu yn ei hymgais i gynnal ei busnes ei hun. Helpodd Lisa Sabrina bob cam o'r ffordd, gan fagu ei hyder a'i hannog i wireddu ei breuddwydion.
Cofrestrwyd Sabrina ar Gwrs Hylendid Bwyd gan Gweithffyrdd+ a'i helpodd i sefydlu ei hun ar gyfryngau cymdeithasol. Ym mis Ionawr 2017, daeth breuddwyd Sabrina o gynnal ei busnes ei hun yn wir a lansiwyd 'Bees Creative'.
Meddai Sabrina, "Nid oeddwn erioed yn meddwl y byddwn yn cynnal fy musnes fy hun, breuddwyd i mi oedd hi ond nid oeddwn yn meddwl y byddai'n cael ei gwireddu. Gwnaeth Gweithffyrdd+ i mi sylweddoli ei bod yn bosib, gan fy nghofrestru ar y cyrsiau perthnasol yr oedd eu hangen arnaf i mi gael y tystysgrifau i ddechrau. Roedd fy mentor yn amyneddgar iawn ac roedd wedi gwneud llawer i mi. Diolch i Gweithffyrdd+, rwyf bellach yn gwneud fy swydd ddelfrydol ac yn cael fy nhalu am wneud hynny. Gallaf weithio o amgylch amserlen y plant, ac rwyf wrth fy modd."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, "Sabrina yw'r diweddaraf mewn rhestr hir o bobl sydd wedi elwa o brosiect Gweithffyrdd+.
"Mae'n destun boddhad mawr clywed sut mae'r prosiect wedi trawsnewid bywyd Sabrina drwy ei rhoi ar y llwybr i'w swydd ddelfrydol. Mae cyngor a chefnogaeth arbenigol yn parhau i fod ar gael i bobl sy'n cael eu hysbrydoli gan stori Sabrina a hoffai chwalu'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn eu hymdrechion i ddychwelyd i'r gweithle."
Cefnogir Gweithffyrdd+ gan £7.5 miliwn o arian yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion.