Cwmnïau rydym wedi gweithio

Cwmnïau rydym wedi gweithio gyda nhw...

Mae Gweithffyrdd wedi cefnogi nifer o gwmnïau bach a mawr ar draws de-orllewin Cymru wrth recriwtio. Ers 2009, mae'r prosiect wedi cysylltu â mwy na 4,500 o gyflogwyr ar draws y rhanbarth. Isod mae rhai o'r cwmnïau rydym wedi'u cefnogi:

Image result for lidl logo

"Un o gryfderau Gweithffyrdd+ yw'r diwrnodau rhagflas maent yn eu cynnig. Roedd y sgiliau angenrheidiol gan rai ymgeiswyr ond nid oedd ganddynt hyder mewn cyfweliadau. Roedd Gweithffyrdd+ yn ein hannog i ystyried diwrnodau rhagflas yn y siop lle gallai darpar ymgeiswyr arddangos eu haddasrwydd i'r rôl a gallem weld eu sgiliau go iawn. Rwy'n gobeithio defnyddio Gweithffyrdd+ ar gyfer anghenion recriwtio Lidl yn y dyfodol." Ross Urwin, Rheolwr Ardal Lidl

Tesco

  “Gallaf argymell Gweithffyrdd fel ffordd wych o recriwtio pobl yn ôl i’r gweithlu. Mae’r berthynas rydym wedi’i chael â Gweithffyrdd wedi bod yn ardderchog. Does dim yn ormod o drafferth.” Jeff Jones, Rheolwr Siop Pontardawe, Tesco

 

Costain

“Dwi’n falch iawn â’r cymorth rydym wedi’i gael gan Gweithffyrdd i ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer ein swyddi gwag. Byddwn yn annog ein contractwyr i ystyried ymgysylltu â Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr Gweithffyrdd a thrafod eu hanghenion recriwtio.” John Skentelbery, Rheolwr Prosiect Ffordd yr Harbwr, Costain

 

Co-operative food

“Mae Gweithffyrdd wedi helpu'n fawr. Mae eu proses yn ein galluogi i weld sut mae pobl yn gweithio yn y swydd cyn ein bod yn eu cyflogi'n barhaol - nid yw'n rhywbeth y gellir ei wneud gyda chyfweliad yn unig. Rydym yn bendant yn gobeithio defnyddio Gweithffyrdd eto." Sandra Beynon, Rheolwr y Co-Op ar Ffordd y Brenin

 

Skyline Cycles

"Nid yn unig y mae Gweithffyrdd wedi ein helpu i recriwtio staff newydd, ond maent wedi ein cefnogi gyda llawer o bethau. Mae Gweithffyrdd wedi ein cysylltu â'r bobl gywir. Maent yn gwybod pa gymorth sydd ar gael ac i bwy i ofyn." Steve Moorwood, Rheolwr Gyfarwyddwr, Beiciau a Chaffi Skyline

 

Marina Telecom

“Pan ddechreuon ni siarad â Gweithffyrdd, daethant i'n gweld ni'n gyflym iawn. Daeth CVs i law o fewn dyddiau ac roedd yr holl broses wedi'i chwblhau o fewn wythnosau.” Stewart Thompson, Cyfarwyddwr, Marina Telecom

 

Corgi Hosiery

"Mae proses Gweithffyrdd yn hawdd ac yn dda. Maent yn ei gwneud yn hawdd recriwtio pobl oherwydd nid oes rhaid i ni edrych drwy bentwr o bapurau. Mae'r ffaith eu bod wedi archwilio cefndir y cyfranogwyr a'u hawgrymu i ni yn fantais fawr. Mae cyfranogwyr Gweithffyrdd am weithio. Mae'n un o'r prosiectau cyflogaeth gorau i mi ymwneud ag ef." Chris Jones, Rheolwr Cwmni, Corgi Hosiery