Insight Health Screening

Insight Health Screening

Chwiorydd yn cael llwyddiant yng Nghanolfan Busnesau Ifanc Sandfields.

Lansiwyd Insight Health Screening gan Liz Terry ac Ellie Taylor yn 2009, o Ganolfan Busnesau Ifanc Sandfields, Port Talbot.

Mae'r busnes yn mynd o nerth i nerth, gan weithio gyda busnesau lleol a chenedlaethol i wella iechyd eu staff, lleihau absenoldebau a hyrwyddo lles.

Meddai Liz Terry, cydsylfaenydd a nyrs gymwys, "Yn amlwg, mae'n well rhwystro'r clwy na'i wella. Rydym i gyd yn gwybod hynny ond nid dyna'r arfer bob tro yn y gweithle.

"Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau y dyddiau hyn yn dod i'r casgliad bod llawer o fanteision i'w cael gan gwmnïau sy'n buddsoddi yn iechyd eu gweithwyr."

Mae'r ddwy hefyd wedi derbyn arian yn ddiweddar gan is-gwmni Corus, UK Steel Enterprise, mewn cynllun a weithredir gan Business Connect, a Chronfa Benthyciadau Hyblyg CNPT. Mae'r arian hwn wedi eu galluogi i brynu cyfarpar a hefyd gosod Sgriniwr Golwg  Keystone a chaban clywedol ar gyfer profion clyw.

Gyda llwyth gwaith bythol gynyddol, mae'r busnes bellach yn gweithredu o ddwy swyddfa yn y ganolfan ac yn cyflogi wyth person ar hyn o bryd.

Meddai Ellie Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Insight Health Screening, "Mae gweithio o'r swyddfeydd yng Nghanolfan Busnesau Ifanc Sandfields yn creu awyrgylch ac amgylchedd gwaith cyfeillgar i'r staff a'r cleientiaid."

Am ragor o wybodaeth am Insight Health Screening, ewch i: http://www.insighthealthscreening.co.uk/