Cwmtawe Business Park

Parc Busnes Cwm Tawe

Mae'r Parc hwn i'r gogledd o brif ardal siopa Pontardawe yng Nghwm Tawe, sy'n ardal boblogaidd ar gyfer safleoedd diwydiannol. Yn agos i'r A4067 a'r A474, mae ganddo gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a Rydaman, Abertawe, coridor yr M4 ac Ystradgynlais. Mae gan bob uned swyddfa, toiledau a drysau ar ffurf caead rholer.

Sut mae cyrraedd yno

Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 45 ac ymuno a'r A4067 i gyfeiriad Pontardawe. Wrth y gylchfan ewch yn eich blaen i Bontardawe ac wrth y gylchfan nesaf, cymerwch y drydedd allanfa i Ystad Ddiwydiannol Aloi. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith i Tawe Terrace ac yna'r troad cyntaf ar y dde. Mae'r parc ar yr ochr dde