Cwmgors Workshops

Gweithdai Pentref Cwm-gors

Mae'r safle hwn, sydd ar goridor yr A474 i Rydaman, yn darparu unedau diwydiannol a swyddfeydd sy'n amrywio o ran maint, i gyd o dan yr un to. Maent yn amrywio o 350 troedfedd sgwar i 5,520 troedfedd sgwar. Darperir toiledau cymunedol a chyfleusterau parcio digonol.

Sut mae cyrraedd yno

Gadewch yr M4 wrth gyffordd 45 ac ymuno a'r A4067 i gyfeiriad Pontardawe. Wrth y gylchfan, ewch ymlaen i gyfeiriad Pontardawe a gadewch y gylchfan nesaf wrth yr ail allanfa. Wrth y gylchfan nesaf cymerwch yr ail allanfa i'r A474 a gadewch y gylchfan nesaf wrth yr ail allanfa i Ffordd Abertawe. Wrth y goleuadau, trowch i'r chwith gan ddilyn yr A474 i gyfeiriad Rhydaman. Wrth gyrraedd pentref Gwm-gors, ewch yn eich blaen gan ddilyn yr arwyddion am y gweithdai ar y chwith.