Endeavour Close

Ystad Ddiwydiannol Endeavour CloseEndeavour Close Industrial Units

Mae'r safle hwn, sy'n agos i Ffordd Ddosbarthu Port Talbot a choridor yr M4, yn cynnwys unedau modern unigol sy'n amrywio o 500 troedfedd sgwar i 3,000 troedfedd sgwar. Maent yn cynnwys swyddfa, toiledau a drysau ar ffurf caead rholer.

Sut mae cyrraedd yno

Gadewch yr M4 wrth gyffordd 42 ac ymuno a'r A48, i gyfeiriad Llansawel. Wrth y gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa i ymuno a'r A48 i gyfeiriad Port Talbot. Wrth y gylchfan, cymerwch y bedwaredd allanfa i ymuno a'r B4286 i gyfeiriad Aberafan ac wrth y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail allanfa gan fynd yn syth ymlaen. Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail allanfa, gan barhau yn syth ymlaen a chymerwch y drydedd allanfa wrth y gylchfan nesaf. Cymerwch y troad nesaf ar y chwith, gan barhau i ddiwedd yr heol. Mae'r ystad y tu ol i Ganolfan Busnes Pobl Ifanc Sandfield.