Rheoliadau a Gwasanaethau

Rheoliadau a Gwasanaethau Busnes

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo busnesau lleol ac er lles yr economi leol.

Hefyd, mae ar y cyngor rwymedigaeth i orfodi nifer o reoliadau y mae'n rhaid i fusnesau weithio oddi mewn iddynt. Nod y rheoliadau hyn yw sicrhau diogelwch eu staff a phobl leol, sicrhau masnachu teg a diogelu'r amgylchedd lleol.

Rheoli Adeiladu

Mae gan swyddogion rheoli adeiladu wybodaeth fanwl am godi adeiladau, dealltwriaeth fanwl o'r rheoliadau adeiladu a sut maent yn cael eu cymhwyso. Mae'n ddyletswydd arnynt i sicrhau bod y gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae swyddogion ar gael i gynorthwyo ag unrhyw ymholiad sydd gennych a chynnig cyngor cyn gwneud cais.

Ffôn: 01639 686820

E-bost: building.control@npt.gov.uk

Trethi Busnes

Mae trethi busnes yn gymwys i'r rhan fwyaf o eiddo ac eithrio tai. Y prif eithriadau yw adeiladau a thir fferm, eglwysi a pharciau cyhoeddus.

Mae trethi busnes yn seiliedig ar eiddo ac fe'i cyfrifir trwy luosi gwerth trethadwy'r eiddo wrth y lluosydd trethi (cyfradd yn y bunt). Y Swyddog Prisio sy'n penderfynu ar werthoedd trethadwy (ewch i Gwerthoedd Trethiannol am fwy o wybodaeth). Gallai trethi busnes fod yn llai mewn rhai amgylchiadau, gweler Gostyngiadau i Filiau Trethi.

Ffôn: 01639 686843

E-bost: Business.rates@swansea.gov.uk

Cefnogi ac Ariannu Busnes

Mae'r Tîm Gwasanaethau Busnes, sy'n gweithio o Uned Datblygu Economaidd y Cyngor, yn rhoi amrywiaeth o help a chyngor i bobl sydd am gychwyn, ehangu neu ail-leoli eu busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot. O ddigwyddiadau a seminarau busnes amrywiol sy'n cynnig gwybodaeth sy'n berthnasol i fusnesau, manylion am eiddo masnachol a diwydiannol gwag.

Ffôn: 01639 686835

E-bost: business@npt.gov.uk

Gwastraff Busnes/Masnachol

Mae gan fusnesau ddyletswydd gyfreithiol i waredu gwastraff yn gyfrifol. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalen Dyletswydd Gofal. Mae'n rhaid i fusnesau ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i waredu eu gwastraff a bod â dogfennau i ddangos y trefniadau sydd ganddynt ar waith ar gyfer gwaredu gwastraff.

Mae'r Cyngor wrth law i gynnig arweiniad a chymorth ynghylch gwaredu'ch gwastraff ac yn darparu amrywiaeth o finiau ag olwynion ar gyfer casglu gwastraff masnachol a deunyddiau ailgylchu sydd bellach yn cynnwys gwydr, caniau a chardbord.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Ganolfan Alwadau Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 01639 686405.

Grant Eiddo Masnachol

Anelir y Grant Eiddo Masnachol at annog gwelliannau adeileddol o safon uchel i adeiladau mewn ardaloedd masnachol ledled y fwrdeistref sirol, gan gynnwys y canolfannau a gynhwysir yn statws Cymunedau'n Gyntaf.

I gael gwybod pa wardiau sy'n gymwys neu i gael mwy o wybodaeth am y grant, cysylltwch â'r Tîm Eiddo ac Adfywio.

Ffôn: 01639 686413

E-bost: regeneration@npt.gov.uk

Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach

Mae Adran Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach Castell-nedd Port Talbot yn cynnig amrywiaeth llawn o wasanaethau i breswylwyr a busnesau yn y fwrdeistref sirol. Nod ein gwasanaethau yw gwneud Castell-nedd Port Talbot yn lle glân, iach a diogel i fyw, gweithio a rhedeg busnes ynddo.

Ffôn: 01639 685678

E-bost: ehts@npt.gov.uk

Mae'r Gwasanaethau Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach hyn hefyd yn cynnwys:

Trwyddedau - ar gyfer tacsis, adloniant cyhoeddus, masnachu yn y stryd a siopau anifeiliaid anwes etc.

Ffôn: 01639 763050

E-bost: licensing@npt.gov.uk

Diogelwch Bwyd - ar gyfer archwilio siopau ac arlwywyr, hyfforddiant i fusnesau a gweithwyr mewn perthynas â hylendid bwyd.

Ffôn: 01639 764325

Arian Ewropeaidd ac Allanol

Mae'r Tîm Ariannu Ewropeaidd ac Allanol yn rhan o'r Uned Datblygu Economaidd ac yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr yn yr awdurdod ac i gyrff allanol. Gyda mynediad i ffynonellau gwybodaeth diweddar, rheoliadau a deddfwriaeth Ewropeaidd a all effeithio ar eich busnes, mae'r tîm hefyd â swyddogion profiadol i'ch tywys trwy anawsterau ceisio Arian Ewropeaidd, gan roi help i chi ddatblygu prosiectau.

Ffôn: 01639 686829

E-bost: europeanteam@npt.gov.uk

Priffyrdd/Trafnidiaeth a Strydoedd

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot rwydwaith o 804km o briffyrdd. Er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn gweithredu'n effeithlon trwy gydol y flwyddyn, ymgymerir â gwaith cynnal a chadw ar y rhannau amrywiol o'r ffordd fawr sy'n cynnwys ffyrdd, llwybrau troed, ymylon ffyrdd, systemau draenio, adeileddau, goleuadau, arwyddion a marciau heol.

Am ragor o wybodaeth, neu i roi gwybod am broblem, ewch i http://www.npt.gov.uk/

Ffôn: 01639 686868

E-bost: customerservicecentre@npt.gov.uk

Cynllunio

Mae Adran Cynllunio'r cyngor yn gyfrifol am reoleiddio datblygu tir ac adeiladau. Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio cyn y gall busnes ddechrau gweithredu a bydd ei angen os byddwch yn newid prif ddefnydd adeilad neu'n datblygu safle newydd.

Er mwyn cynorthwyo'r broses o wneud cais i gynllunio, mae Adran Gwasanaethau Cynllunio Castell-nedd Port Talbot wedi rhannu'r fwrdeistref yn dri thîm ar wahân - i'r gogledd, y canolbarth a'r de.

Ffôn: 01639 686738 (Gogledd)

01639 686754 (Canolbarth)

01639 686737 (De)

I weld map o'r ardaloedd cynllunio, ewch i Cysylltu â'r Adran Rheoli Datblygu