Grŵp Cymorth i Gyflogwyr

Grŵp Cymorth i Gyflogwyr - yn gwella cymorth i'ch cwmni

Mae'r Grŵp Cymorth i Gyflogwyr yn ymagwedd gydweithrediadol gan grŵp o sefydliadau (gan gynnwys Gweithffyrdd) sy'n cynnig cymorth busnes a recriwtio.

Bydd y Grŵp Cymorth i Gyflogwyr yn darparu man cyswllt cyntaf i'ch cwmni ar gyfer derbyn cymorth recriwtio a busnes, ac yn eich hysbysu ynghylch y datblygiadau diweddaraf am wasanaethau lleol a chenedlaethol.

Mae'r sefydliadau canlynol yn rhan o'r Grŵp Cymorth i Gyflogwyr:

Employer Support Group

Gall cynrychiolydd o'r Grŵp Cymorth i Gyflogwyr gwrdd â chi i:

  • Drafod y cymorth sydd ar gael i'ch cwmni
  • Nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth

Gall y Grŵp Cymorth i Gyflogwyr helpu ag anghenion recriwtio eich cwmni drwy:

  • Hysbysebu swyddi gwag i bob sefydliad sy'n rhan o'r Grŵp Cymorth i Gyflogwyr. Byddwn yn cynnal ymarfer paru swyddi gwag ar eich rhan i sicrhau bod ymgeiswyr addas ar gael.
  • Rhoi rhestr fer o ymgeiswyr i chi, gyda gwybodaeth am unrhyw anogaeth sydd ar gael i bob unigolyn e.e. cyfnod prawf gwaith, cyllid ReAct.
  • Trefnu diwrnodau cyfweliad (ar gais).
  • Prosesu unrhyw anogaeth dychwelyd i'r gwaith berthnasol ar ôl dewis yr ymgeisydd llwyddiannus.

I weld sut gall eich cwmni elwa o help y Grŵp Cymorth i Gyflogwyr, cysylltwch â'ch tîm Gweithffyrdd lleol.