D2 Joinery

D2 Joinery

D2 Joinery

Sefydlodd David Owen ei fusnes gwaith coed ym mis Medi 2009, ar ôl treulio’r tair blynedd flaenorol yn adeiladu gitarau mewn garej. Wedi iddo sylweddoli nad oedd y busnes gitarau’n ddigonol i ariannu ei gynlluniau i ehangu’r busnes, fe drodd o wneud gitarau at fod yn saer celfi, drysau, ffenestri a cheginau. Erbyn hyn roedd angen adeilad addas arno i storio ei beirianwaith newydd i gyd.

‘Edrychais i ar sawl uned yn yr ardal, ond Canolfan Busnes Pobl Ifanc Sandfields oedd yr un fwyaf deniadol o bell ffordd. Roedd y pris yn rhesymol, roedd yr adeilad a’r tir o’i gwmpas yn lân ac yn broffesiynol, roedd y lle parcio a mynediad i’r safle’n ddelfrydol ac roedd y diogeledd yn tawelu’r meddwl. Roedd y rheolwyr yn ardderchog, a chefais fod y broses gyfan rhwng yr ymholiadau cyntaf a symud I mewn yn gyflym ac yn hawdd iawn. Roedd y Ganolfan yn creu amgylchiadau delfrydol hefyd imi rwydweithio gyda busnesau eraill. Ers dechrau dw i wedi rhoi gwaith i fusnesau eraill sydd yn y Ganolfan a derbyn gwaith oddi wrthyn nhw, a dw I o’r farn bod y tasgau cynnar hynny, ynghyd â’r cymorth a ges i gan Innov8, wedi bod yn hanfodol bwysig i lwyddiant fy musnes.’

Erbyn hyn mae angen mwy fyth o le ar David, ac mae wedi symud I Ystad Ddiwydiannol Endeavour Close lle mae ei fusnes yn dal i dyfu.

D2 Joinery Case Study
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Case Study - D2 Joinery
130 KB