Cymorth Busnes

Sut gall Gweithffyrdd + gynorthwyo fy musnes?

Gyda busnesau’n fwy ymwybodol o’u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, mae cyfleoedd bellach i ddangos hyn trwy recriwtio unigolion cymhellol sy’n chwilio am waith.

Gall Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr Gweithffyrdd gysylltu pobl leol â busnesau, er mwyn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau hanfodol a’r profiad angenrheidiol i ddod o hyd i gyflogaeth yn y tymor hir.

Eich cefnogi chi i gefnogi pobl leol

Bydd Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr yn sicrhau cysylltiad llwyddiannus â chwmnïau lleol, i gynorthwyo gyda recriwtio a chael mynediad i unrhyw gefnogaeth sydd ar gael trwy’r canlynol:

  • Cydgysylltu â chynrychiolwyr eich sefydliad i bennu rolau sydd ar gael
  • Cynorthwyo gyda disgrifiadau swydd
  • Hysbysebu'r swyddi gwag i gronfa o ymgeiswyr addas
  • Cefnogi amserlennu diwrnodau recriwtio a hwyluso lleoliadau recriwtio
  • Mewn rhai achosion, gallwn greu cyfle am swydd dros dro gyda busnesau lleol a rhoi cymhorthdal ar gyfer cyflogau cyfranogwyr am gyfnod y cytunir arno
  • Edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o recriwtio'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd – treialon gwaith a diwrnodau blasu
  • Paratoi ymgeiswyr posib gyda hyfforddiant a phrofiad gwaith addas
  • Sicrhau bod yr holl lwybrau cefnogi busnes yn cael eu harchwilio i gynorthwyo â recriwtio, hyfforddiant, cadw staff a chymorth parhaus
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda chi, adeiladu perthynas fusnes hir dymor i gynorthwyo â'ch anghenion recriwtio parhaus

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut gall eich busnes fanteisio ar gefnogaeth Gweithffyrdd +, cysylltwch â’ch swyddfa leol.

Sut rydym wedi helpu busnesau eraill: