Call of the Wild Ltd

Call of the Wild Ltd

Call of the Wild Ltd

Ym 1998, rhoddodd tri ffrind ysgol y gorau i'w gyrfaoedd proffesiynol a dychwelsant i gymoedd De Cymru i ddilyn eu breuddwydion o berchen ar ganolfan weithgareddau gyda gwahaniaeth.

Ers sefydlu Call of the Wild, maent wedi dod yn adnabyddus am drefnu hyfforddiant a diwrnodau mas. Ar ôl dathlu eu 10fed pen-blwydd yn 2009, nid yw'n syndod eu bod erbyn hyn yn un o'r cwmnïau mwyaf a hynaf yng Nghymru.

Mae Call of the Wild yn cynnig dewis o weithgareddau awyr agored adrenalin uchel i bob oedran a gallu, yn ogystal â hyfforddiant rheoli ac adeiladu tîm ac mae'n hybu sylfaen cleientiaid o bob rhan o'r DU ac Ewrop gan gynnwys Orange, Admiral a BMW.  Meddai Mark Soanes, un o'r cyfarwyddwyr, “Mae bob amser yn dawelwch meddwl gwybod bod ein gwaith yn cael ei gydnabod ac nad yw ein cyfraniad at yr economi'n cael ei danbrisio.

Mae'r defnydd effeithiol o TGCh wedi bod yn ffactor sylweddol yn nhwf a datblygiad y cwmni. Cydnabuwyd hyn pan enillodd y cwmni gategori “Defnydd Gorau o Dechnoleg” Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe yn 2009 i ychwanegu at eu gwobrau “Busnes Bach Cymreig y Flwyddyn” a “Cwmni Adeiladu Tîm Cenedlaethol y Flwyddyn” a enillwyd yn 2008.

Roedd y Grant Cronfa Buddsoddiad Lleol (CBLl) yn galluogi'r cwmni i wella'i wefan ymhellach, sydd wedi bod yn offeryn e-farchnata hynod bwysig wrth ddatblygu ei sylfaen cleientiaid yn y DU ac ar draws Ewrop. Amcan y gwelliannau i'r wefan oedd targedu grwpiau cwsmeriaid newydd.

Wrth siarad am y cymorth gan y CBLl, dywedodd Mark Soanes, un o gyfarwyddwyr y cwmni,
 “Roedd y broses hon o wneud cais yn fwy hwylus na'm profiadau blaenorol. Cafwyd cyfnod prosesu cynt sy'n golygu bod prosiectau'n cael eu cwblhau mewn amser byr.”

Mae’r cwmni’n ymroddedig i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu cyflwyno i'r amgylchedd lleol hyfryd er mwyn gwella eu dysgu, eu gwerthfawrogiad a'u mwynhad o gefn gwlad unigryw Castell-nedd, Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrth fwynhau golygfeydd gogoneddus yr ardal.

Agweddau fel hyn sydd wedi galluogi Call of the Wild i ddathlu deuddeg mlynedd ers ei sefydlu a mynd o nerth i nerth.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.adventurebritain.com