Amazon.co.uk

Amazon.co.uk - Adleoliad Llwyddiannus

Amazon

Pan gyhoeddodd cwmni ar-lein enfawr Amazon ei fod yn mynd i greu mwy na 1,000 o swyddi mewn canolfan ddosbarthu yng Nghastell-nedd Port Talbot, gwnaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru eu gorau glas i sicrhau na fyddai unrhyw oedi yn amserlen dynn Amazon.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio o fewn 22 ddiwrnod i gyflwyno'r cais ac ymhen 15 mis o'r trafodaethau cychwynnol daeth yr agoriad swyddogol, camp ryfeddol o ystyried maint y datblygiad.

Roedd y ganolfan 800,000 tr. sgwâr a fyddai cymaint â 10 cae pêl-droed, yn golygu codi adeilad 75,000 metr sgwâr, parcio ar gyfer 175 o gerbydau a'r gallu i drafod hyd at 100 o symudiadau nwyddau bob dydd. Bu agor y ganolfan yn ddiweddar yn hwb sylweddol i'r ardal oherwydd ei bod yn fuddsoddiad enfawr yng nghyd-destun nifer y swyddi. 

Cydnabuwyd cymhlethdod y prosiect a chyflymder y broses o'i roi ar waith yn seremoni wobrwyo Insider Property yn ddiweddar, lle cafodd y Cyngor a Llywodraeth Cynulliad Cymru wobr Deal of the Year.

"Un o'r prif resymau dros ddewis Bae Abertawe fel lleoliad oedd y ffynhonnell o ddoniau lleol y gallem ei defnyddio, ac mae'n wych bod cynifer o bobl o'r ardal yn ymuno â ni."

Chris Griner, Uwch-reolwr Gweithrediadau