Out of the Box Gift Company

Out of the Box Gift Company

Out of the Box Gift Company

Sefydlodd Sara Flay gwmni i gynhyrchu melysion ac anrhegion wedi’u personoli, ar ôl rhagbrofi’r syniad busnes trwy wneud eitemau yn ei chartref ar gyfer ei theulu a’I ffrindiau. Mae Sara’n cynhyrchu losin wedi’u personoli a rhai brandiedig bellach ar gyfer busnesau, unigolion ac elusennau, yn ogystal ag anrhegion anghyffredin megis tuswau candi, ysnodenni unigryw a basgedi danteithion arbenigol. Esboniodd Sara:

‘Symudais i mewn i’r Ganolfan ym mis Chwefror, ond tyfodd y busnes yn rhy fawr i’m swyddfa’n fuan ac roedd angen llawer mwy o le arna i. Fel busnes newydd dw i wedi manteisio hefyd ar Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a’r cynllun Innov8, ac mae hyn wedi fy helpu i droi rhywbeth a oedd yn hobi’n fusnes go iawn. Defnyddiais i’r grant I greu gwefan newydd a chynhyrchu cardiau busnes, taflenni a slipiau cyfarch; cafodd y rhain i gyd eu creu gan Unfold Design – busnes arall sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan. Mae lleoli fy nghwmni yn y Ganolfan wedi fy helpu i gadw fy ngorbenion yn isel, a chan fod cynifer o fusnesau eraill yma dan yr un to mae’n darparu llu o gyfleoedd inni fownsio ein syniadau yn erbyn ein gilydd.’

Out of the Box Gift Company - Case Study
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Case Study - Out of the Box Gifts Company
133 KB