BAM Construction

BAM Construction - Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Bam construction

Mae'r digwyddiad gyda BAM Construction yn enghraifft wych o sut gall y Cyngor weithio gyda'r byd diwydiant i greu cyfleoedd masnachu ar gyfer busnesau lleol yn yr ardal.’ Meddai Gordon Andrews, Pennaeth Datblygiad Economaidd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Mae amrywiaeth eang o fanteision i ymgysylltu â chwmnïau lleol, gan gynnwys gwybodaeth leol, pobl leol a chefnogaeth ar gyfer yr economi leol wrth leihau ein hôl troed carbon. Maent hefyd yn helpu BAM i gefnogi polisïau'r cyngor lleol ar gyfer caffael cynaliadwy a lleol. Wrth i BAM Western ehangu yn Ne Cymru, roedd datblygu perthnasoedd ag is-gontractwyr a chyflenwyr lleol yn flaenoriaeth.

Bu BAM yn cyfarfod â Swyddogion Cefnogi Busnes Cyngor Castell-nedd Port Talbot i drafod y ffordd orau o ymgysylltu â chwmnïau lleol. Cytunwyd y byddai ‘Diwrnod Cwrdd â'r Prynwr’ yn fuddiol tu hwnt. Gan fanteisio ar wybodaeth y Cyngor am fusnesau bach a chanolig (BBaCh) ledled yr ardal leol, daeth yn glir bod cryn ddiddordeb yn y digwyddiad.

Bam and NPT Council

Darparwyd rhestr o fasnachau a chyflenwyr targed ynghyd â'r gofynion ar gyfer gweithio gyda BAM ynglŷn â safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol a chyflogaeth. Roedd y masnachau'n adlewyrchu'r rhaglen gaffael ar gyfer y prosiect ysgol lleol a ddechreuwyd yn ddiweddar a hefyd pecynnau gwaith nodweddiadol.

Trefnodd BAM ddigwyddiad mewn ystafell gynadledda mewn gwesty lleol gan greu mannau trafod unigol mewn amgylchedd hamddenol. Roedd gan bob cwmni a oedd wedi cofrestru gyda'r cyngor lleol ymlaen llaw slotiau hanner awr i hyrwyddo eu busnesau i reolwr BAM a oedd yn gallu gwneud penderfyniad ar eu haddasrwydd a chadarnhau neu wrthod y cyfle i dendro ar y prosiect lleol neu gofrestru ar gadwyn gyflenwi BAM ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.

I gefnogi'r is-gontractwyr yr oedd angen mwy o gymorth arnynt i gyrraedd y safon ofynnol, roedd BAM a sefydliadau megis Construct Wales, Workways Employment ac Adran Cefnogi Busnesau'r Cyngor wrth law i asesu gofynion busnesau ac amlygu cyfleoedd hyfforddi.

Bam Construction

Daeth chwe deg cwmni i ddiwrnod y prynwyr a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2011. Ychwanegwyd 75% o'r cwmnïau hyn at gronfa ddata cadwyn gyflenwi BAM a gwahoddwyd 55% ohonynt i dendro am fwy na 30 pecyn am brosiect ysgol lleol. Mae'r adborth a'r canlyniadau'n dangos effaith gadarnhaol y diwrnod yn glir.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd yr anghenion hyfforddi lleol eu gwerthuso a'u blaenoriaethu. Trefnodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot weithdai hyfforddi lleol i sicrhau bod y cwmnïau'n bodloni'r safonau gofynnol. Trwy drefnu sesiynau grŵp, roedd y Cyngor yn gallu lleihau cost y gweithdai, a wnaeth yr hyfforddiant yn opsiwn fforddiadwy i'r cwmnïau llai. Bydd yr hyfforddiant yn helpu i sicrhau bod y cwmnïau'n addas i gystadlu am dendrau adeiladu yn y dyfodol.

"Dyrennir i bob cyflenwr 20-30 munud gyda chynrychiolydd prynwr, ac mewn rhai achosion mwy o amser na hynny. Mae hyn yn galluogi trafodaeth ystyrlon ac o ganlyniad, mae'r cwmnïau'n cael gwybodaeth fwy manwl am ofynion y prynwr, gan gynnwys achrediadau gorfodol. Yn yr achos dan sylw, caniataodd hefyd i'r cyflenwyr unigol esbonio'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig i BAM Construction Ltd. Yn gyffredinol, dyma oedd ymagwedd at gyflwyno cyflenwr lleol i brynwr a gafodd groeso da a'i gyflawni'n dda. Os pennir llwyddiant yn ôl barn y cyflenwyr o'r digwyddiad, yna dengys y graff isod, a dynnwyd o arolwg o'r cwmnïau cyflenwi lleol ar ddiwedd y digwyddiad, y cafodd groeso da iawn a'i werthfawrogi'n fawr." Lynne Davies, Adeiladu Cymru