Chwilio am waith?
Yn chwilio am waith?
Dych chi di-waith, heb fod mewn addysg, anweithgar yn economaidd ac 25 oed neu'n hŷn?
Fe wnawn ni:
- Eich cynorthwyo i oresgyn unrhyw rwystr at waith
- Sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at yr holl gefnogaeth berthnasol
- Meithrin hyder
- Nodi anghenion hyfforddi
- Eich helpu a'ch cefnogi i gael gwaith
- Helpu i nodi eich potensial
Drwy ddarparu:
- Mentor personol a fydd yn nodi'ch sgiliau ac yn gweithio gyda chi i lunio cynllun gweithredu swydd
- Cefnogaeth i chwilio am swyddi
- Help i ysgrifennu CV a chwblhau ceisiadau swydd
- Swyddi gwag lleol sy'n addas i'ch sgiliau chi - does dim gwahaniaeth os nad oes gennych gymwysterau na phrofiad
- Cyfleoedd hyfforddi perthnasol
- Caiff rhai cyfranogwyr swydd dros dro â thâl gyda chyflogwr lleol - mae cymorth ariannol ar gael am hyfforddiant, dillad a chostau gofal plant
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni
Cymerwch olwg ar y daith o dair o'n cyfranogwyr yn y gorffennol a'u cyflogwyr drwy glicio ar y llun isod:
Rydym yn cynnal sesiynau allgymorth a cheisio gwaith trwy gydol yr wythnos lle gallwch ddod i'n gweld ni.
I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd: