Cultech Ltd

Cultech Ltd

Mae cwmni uwch-dechnoleg gyda fformiwla llwyddiant wedi creu 25 swydd ar ôl ennill contract sylweddol gydag un o gewri'r stryd fawr.

Mae Cultech, cwmni biodechnoleg ym Maglan, yn cynhyrchu'r dewis Dome Cap o 22 ychwanegyn maethol i'w gwerthu yn siopau Boots ledled y DU.

Cefnogwyd codi cyfleusterau cynhyrchu newydd i'w ategu gan Lywodraeth Cymru trwy'i Chronfa Buddsoddiad Sengl.

Cynyddodd trosiant y cwmni £3 miliwn y llynedd i fynd yn fwy na £12 miliwn ac erbyn hyn mae'n cyflogi mwy na 150 o bobl mewn unedau gweithgynhyrchu ym Mharc Diwydiannol Baglan a Maesteg.

Dywedodd Nigel Plummer, y rheolwr-gyfarwyddwr, y bu cymorth Llywodraeth Cymru'n hollbwysig. Ychwanegodd, "Nid oeddem wedi gallu bwrw ymlaen gyda rhai prosiectau ymchwil heb gymorth grantiau. O ganlyniad i hyn, bu modd i'r cwmni dyfu'n llawer cynt na buasai'n bosib fel arall, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth hwn."

Dywedodd Mr Plummer fod Cultech yn gweithredu mewn marchnad tra chystadleuol ond ei fod wedi parhau i dyfu trwy ddarparu arbenigedd penodol ar gyfer creu fformwleiddiadau cymhleth mewn ymateb i'r galw gan gwsmeriaid.

O ganlyniad, mae wedi arallgyfeirio a symud i segmentau marchnad newydd gan allforio i Ogledd America, Ewrop a'r Dwyrain Pell, ymhlith lleoedd eraill.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, fod Cultech yn chwaraewr pwysig yn y sector gofal iechyd a bio-wyddoniaeth yng Nghymru.

"Mae bob amser yn dda clywed am gwmnïau sy'n ehangu ac yn creu swyddi, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni," meddai.

"Mae Cultech yn buddsoddi swm sylweddol o refeniw ar ymchwil a datblygu sy'n ei alluogi i ddatblygu cynnyrch a phrosesau blaengar iawn, sy'n hanfodol i lwyddiant tymor hir unrhyw fusnes."