Baglan Energy Park

Parc Ynni Baglan - Un o storïau llwyddiannus CNPT

                        Baglan Energy Park

Mae Parc Ynni Baglan yn un o leoliadau busnes a diwydiannol pwysicaf Cymru.

Mae'r parc 180 erw yn helpu i drawsnewid yr ardal, sicrhau dyfodol diwydiannol gwyrdd a chreu miloedd o swyddi.

Mewn lleoliad cyfleus ger traffordd yr M4, mae'r parc eisoes wedi denu cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â chyfleusterau o'r radd flaenaf.

Mae Canolfan Rhagoriaeth ar gyfer Rheoli Halogi Ecolab yn darparu rhai o dechnolegau mwyaf blaengar y diwydiant, gan gynnwys ystafelloedd glân a labordai cyfoes.

Mae GE Energy wedi adeiladu pwerdy £300m i'r parc, sy'n darparu trydan am brisiau cystadleuol i fusnesau sy'n lleoli yn y parc.

Mae Hi-Lex Cable Systems Ltd, cwmni mewn perchnogaeth Japaneaidd sy'n gweithgynhyrchu cydrannau i'r diwydiant moduro, yn cyflogi dros 230 o bobl yn ei brif swyddfa Ewropeaidd yn y parc.

Mae'r cwmni Eidalaidd Intertissue, sy'n rhan o Grŵp Sofidel, yn cynhyrchu hancesi papur, papur toiled a rholiau cegin ar gyfer brandiau archfarchnadoedd o'i felin bapur 1 miliwn troedfedd sgwâr.

Cwblhaodd Mardon Properties waith yn ddiweddar ar gam cyntaf datblygiad defnydd cymysg gwerth £20m o adeiladau swyddfeydd ac unedau diwydiannol sy'n denu amrywiaeth o gwmnïau.

Cwmni sy'n ystyriol o'r amgylchedd yw Montagne Jeunesse sy'n marchnata cynnyrch cosmetig megis pecynnau wyneb.

Adeilad swyddfeydd nodedig ywOne Talbot Gatewaysy'n sefyll wrth fynedfa'r parc. Mae Dŵr Cymru a phartneriaeth y GIG wedi adleoli i'r safle.

Mae Remploy Furniture, un o gyflenwyr celfi ysgol pennaf y DU, wedi ymgartrefu yn y parc ers 2005.

Mae Canolfan Flaengaredd Bae Baglan yn darparu amgylchedd i fusnesau ifanc, blaengar ac uwch-dechnolegol, a arweinir gan dechnoleg gynaliadwy, i dyfu. Mae'n cynnwys 39,000 tr. sgwâr o le dros bedwar llawr sy'n cynnwys 32 uned gychwynnol, ystafelloedd cyfarfod, cyfleuster cefnogi busnesau a chysylltiadau agos â phrifysgolion.

Mae'r Ganolfan Solar yng nghanol y parc yn rhandy i adeilad Canolfan Flaengaredd Bae Baglan. Mae'r cyfleuster yn cynhyrchu ei drydan ei hun o drydan dros ben a fwydir i'r system grid, gan symboleiddio ethos y parc.

Mae Canolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Adnewyddadwy gyntaf Cymru yn darparu cyfleusterau ar gyfer cynhyrchu hydrogen, cynadleddau, ymchwil, arddangosiadau ac addysg, a'r cyfan yn rhedeg ar y ffynonellau ynni adnewyddadwy sydd yn y parc.

Ffeithiau allweddol am Barc Ynni Baglan………….

  • Unwaith bydd y parc wedi'i gwblhau, bydd cyfanswm y buddsoddiad oddeutu £400 biliwn.
  • Mae mwy na 1,600 o bobl eisoes yn gweithio yn y parc, a phan fydd wedi'i orffen, bydd ganddo le ar gyfer hyd at 3,000 o swyddi.
  • Mae pwerdy tyrbin nwy cylch cyfunGeneral Electric yn darparu trydan am bris cystadleuol i fusnesau yn y parc.
  • Maesafle 82 erwIntertissue ym Maglan yn cynhyrchu tua 500 miliwn o roliau papur toiled sy'n ddigon i lapio'r ddaear 375 gwaith.
  • Mae'r parc wedi derbyn y BURA (Gwobr Adfywio Trefol Prydain),  yr Insider Award for Regeneration a'r Local Government Chronicle & Health Services Journal Sustainable Communities Award i gydnabod ei waith wrth greu dyfodol diwydiannol glanach a gwyrddach i'r ardal.
    • Adeiladwyd y Ganolfan Solaryn wreiddiol ar gyfer cynhadledd y G8 yn Birmingham ar gyfer y prif weinidog Tony Blair a phenaethiaid gwledydd y G8.